Diweddariadau Pwnc Diweddaraf
Therapi PDM ar gyfer atal a thrin mwcositis geneuol a dermatitis sy'n gysylltiedig â thriniaeth canser sy’n defnyddio ymbelydredd.
May 2022
Profion proffilio tiwmorau sy'n llywio penderfyniadau o ran triniaeth ar gyfer canser cynnar y fron
May 2022
Deltascan – Monitor Cyflwr yr Ymennydd ar gyfer diagnosio enseffalopathi acíwt a/neu deliriwm
May 2022
Awgrymu pwnc
Os oes technoleg yr hoffech i ni ei werthuso yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Cylchlythyr
Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i dderbyn ‘Cylchlythyr Chwarterol HTW’ a ‘Hysbysiadau o Ganllawiau HTW.’
Datblygiadau diweddaraf
Mai 2022
Rydym yn hysbysebu am swyddi!
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddau Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd i ymuno â'n tîm yn Technoleg Iechyd Cymru (HTW), sy’n cael ei letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o fewn GIG Cymru. Rydym eisiau recriwtio dau Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd fel rhan o’n gwaith ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru.
Mai 2022
Radiotherapi sydd yn gallu haneru’r amser y mae cleifion â chanser y prostad yn ei dreulio yn cael triniaeth yn cael ei argymell i’w ddefnyddio yng Nghymru
Mae math o radiotherapi a allai haneru'r amser y mae cleifion canser y prostad yn ei dreulio yn cael triniaeth wedi cael ei argymell i'w ddefnyddio yng Nghymru. Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cyhoeddi canllaw, sy'n argymell mabwysiadu EHFRT (Extreme Hypofractionated Radiotherapy) fel mater o drefn ar gyfer trin canser cyfyngedig y prostad.
Ebr 2022
Cyhoeddi bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’
Rydym wedi cyhoeddi’r bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’ i gefnogi gwneud penderfyniadau ar dechnolegau iechyd yn GIG Cymru. Mae’r bwletin yn rhestru cyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd gennym ni ac asiantaethau asesu technoleg iechyd (HTA) eraill ledled y DU ac Ewrop rhwng diwedd mis Ionawr a mis Mawrth 2022.