Mae Cynllun Strategol Technoleg Iechyd Cymru 2026-2030 wedi’i gyhoeddi

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2026.
Mae’r cynllun yn nodi ein nodau a’n hamcanion tymor byr a chanolig ar gyfer y pedair blynedd nesaf, ac mae wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’n ddogfen fyw a fydd yn cael ei mireinio’n barhaus i adlewyrchu newidiadau i agenda polisi iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Mae pum amcan blaenoriaeth HTW ar gyfer y pedair blynedd nesaf wedi’u cynnwys yn y cynllun:
- Cynhyrchu a lledaenu allbynnau gwerthuso tystiolaeth a chanllawiau iechyd a gofal cymdeithasol HTW, sy’n gynhwysol ac o ansawdd uchel.
- Sicrhau aliniad â blaenoriaethau Gweinidogol, polisi a’r system iechyd a gofal cymdeithasol
- Cefnogi gwneud penderfyniadau polisi iechyd a gofal cymdeithasol sy’n hollbwysig o ran amser trwy fentrau, rhaglenni a grwpiau yng Nghymru a’r DU
- Cynnal archwiliad mabwysiadu blynyddol o ganllawiau HTW a detholiad o ganllawiau NICE.
- Cydweithio â phartneriaid ecosystem iechyd a gofal cymdeithasol Cymru a phartneriaid asesu technoleg iechyd y DU (e.e. NICE, Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban, Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd) i gefnogi polisi arloesi a MedTech perthnasol Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun yn nodi amcanion HTW mewn pedwar maes allweddol hefyd: Adnabod, arfarnu, mabwysiadu ac effaith ac ymgysylltu.
Dywedodd Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:
“Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n rhanddeiliaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol am eu cefnogaeth barhaus ar gyfer ein gwaith.
“Yn ystod y pedair blynedd nesaf, mae gan Technoleg Iechyd Cymru rôl hanfodol i’w chwarae mewn cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru i wella iechyd a gofal pobl Cymru yn sylweddol.
“Mae datblygiadau technolegol cyflym yn golygu ei bod hi’n fwy pwysig nag erioed i ddod o hyd i dechnolegau iechyd a fydd yn cael yr effaith fwyaf posibl ar gyfer Cymru, ac asesu eu heffeithiolrwydd clinigol a’u heffeithiolrwydd o ran cost.”
Cliciwch yma i lawrlwytho copi o’r Cynllun Strategol 2026-30.