Newyddion

09 Hydref, 2023

Adroddiad newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at sut mae arloesi yn sbarduno trawsnewid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Effaith diweddaraf. Mae’n tynnu sylw at gryfder tirwedd arloesi Cymru a sut mae ei chefnogaeth yn gwella ansawdd gofal, yn darparu gwasanaethau yn y ffordd orau bosib ac yn sbarduno twf economaidd hanfodol a chreu swyddi.

 

Mae’r sefydliad yn cefnogi partneriaid sy’n gweithio ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, diwydiant, y byd academaidd a’r trydydd sector drwy weithredu fel cysylltwr, gyrrwr a hwylusydd i sbarduno’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu arloesedd gwyddorau bywyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Mae uchafbwyntiau’r adroddiad yn cynnwys:

 

Yn cefnogi:

  • 262 o sefydliadau
  • 105 o swyddi
  • 39 o gynigion sy’n barod i’w mabwysiadu
  • 37 o gynigion cyllido

 

Yn sicrhau:

  • £23.5m o gyllid
  • £13.2m o fuddsoddiad

 

Yn darparu:

  • £5.8m o Werth Ychwanegol Gros
  • £4.7m o werth i’r system

 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn defnyddio astudiaethau achos cryno, geirdaon a dealltwriaeth allweddol i ddangos sut maen nhw’n helpu’r diwydiant i ddatblygu a mabwysiadu technolegau allweddol fel deallusrwydd artiffisial, meddygaeth fanwl a monitro o bell. Yn ogystal, mae’n gweithio gyda’r maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddeall ei anghenion a sicrhau bod yr atebion hyn yn helpu i’w gefnogi.

 

Rhoddir sylw i ystod eang o brosiectau, gan gynnwys:

 

  • Cynnull partneriaid yn y lle cyntaf a chefnogi’r prosiect QuicDNA, lle mae partneriaid traws-sector yn gweithio i werthuso technoleg genomeg biopsi hylif arloesol i gyflymu’r llwybr diagnosis ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint.

 

  • Sut mae cefnogi’r Rhaglen Cymru Gyfan ar gyfer Llawdriniaeth â Chymorth Roboteg yn ystod camau cyntaf wedi hwyluso twf rhyfeddol. Mae’r dechnoleg hon, sy’n creu archoll mor fach â phosib, wedi trin cannoedd o gleifion canser a hyfforddi dwsinau o staff. Ymysg y manteision mae amseroedd adfer cyflymach a dod â chyfleoedd swyddi hanfodol i Gymru.

 

  • Gwaith cymorth ariannol cynhwysfawr i arloeswyr ar amrywiaeth o gyfleoedd cynigion gan gynnwys Catalydd Biofeddygol: Meddygaeth Fanwl Uwch a’r cynllun peilot Hwb Iechyd Digidol UKRI.

 

 

Mae’r adroddiad llawn ar gael i’w lwytho i lawr ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.