Beth yw PPI?
Mae cynnwys y cleifion a’r cyhoedd – neu PPI – yn rhan bwysig o ddeall sut y gall technolegau iechyd a modelau gofal a chymorth ddylanwadu ar fywydau pobl ac effeithio arnynt. Mae hyn yn golygu dysgu’n uniongyrchol gan gleifion, unigolion a’u teuluoedd a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli. Gallwch ddysgu mwy am ddulliau HTW o gymryd rhan mewn PPI, beth mae PPI yn ei olygu, a sut y gallwch gymryd rhan, drwy edrych ar ein hanimeiddiad a’n hadnoddau PPI.