Mae Grŵp Asesu Technoleg Iechyd Cymru yn sicrhau ansawdd ein gwaith a phrosesau Technoleg Iechyd Cymru. Mae’r grŵp yn goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu’r Adroddiadau Arfarnu Tystiolaeth (EAR), ac yn ystyried mewnbwn arbenigol annibynnol. Mae’r aelodau presennol wedi’u rhestru isod.

A portrait of staff and/or a member

Dr Susan Myles
Cadeirydd y Grŵp Asesu

Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).

Bernie Sewell

Uwch Ddarlithydd mewn Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe, Prifysgol Abertawe

Bywgraffiad >
X Mae Bernie yn uwch economegydd iechyd ac arweinydd asesu technoleg iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae hi’n gyd-ymgeisydd ac yn arweinydd cyfathrebu ac ymgysylltu yn nhîm Rheoli Economeg ac Iechyd Gofal Cymru. Mae hi wedi arwain amrywiaeth o werthusiadau economaidd iechyd yn ymwneud ag ymyriadau, triniaethau a gwasanaethau newydd, gan gynnwys gwerthusiadau yn y byd go iawn yn seiliedig ar ddata, gwerthusiadau seiliedig ar fodel, canllawiau NICE a dadansoddiadau cost-effeithiolrwydd, ochr yn ochr â hap-dreialon rheoledig mawr, ar hyn o bryd yn enwedig, ym meysydd canser, atal a COVID-19.
A portrait of staff and/or a member

Diane Seddon

Darllenydd mewn Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Bangor

Bywgraffiad >
X Mae Diane wedi arwain y gwaith o ddatblygu rhaglen ymchwil gofal cymdeithasol lwyddiannus, sy'n denu grantiau ymchwil gwerth dros £7 miliwn. Mae ganddi enw da am gwblhau ymchwil sy'n berthnasol i bolisïau sy'n cael effaith, sy’n cynnwys cwblhau adolygiadau gweithredu polisïau cenedlaethol fel y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae Diane yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu a darparu System Cymorth ar Seilwaith Ymchwil Llywodraeth Cymru, ac mae'n arwain mentrau i integreiddio ymchwil, polisïau ac arferion yn well.

Emma Hughes

Cynghorydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Mae Emma yn strategydd polisi deinamig gyda chefndir llwyddiannus, yn datblygu newid ar lefel leol a chenedlaethol. Mae ganddi brofiad o weithio gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, ac mae hi’n chwarae rôl weithredol yn agenda materion cyhoeddus y llywodraeth ac mewn llunio polisi iechyd a gofal cymdeithasol. Emma yw'r Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu ar gyfer yr elusen, Genetic Alliance UK. Mae hi wedi bod yn gweithio dros y chwe blynedd diwethaf i helpu i wella systemau a phrosesau i gleifion sydd â chlefydau anghyffredin i gael mynediad i feddyginiaethau, technolegau a gwasanaethau arbenigol amddifad a thra amddifad.

Ian Rees

Gweithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol, Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot

Bywgraffiad >
X Mae Ian Rees yn Weithiwr Cymdeithasol Ymgynghorol gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot, gyda dros 40 mlynedd o brofiad o weithio ym maes Camddefnyddio Sylweddau a Gwasanaethau Plant. gwasanaethau, mae hefyd yn cadeirio'r Gweithgor Sipsiwn-Teithwyr lleol. Yn ei swydd bresennol mae'n gyfrifol am Symud Gwybodaeth, gan ddod o hyd i gysylltiadau creadigol rhwng anghenion y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r byd academaidd.
James Evans

Dr James Evans

Swyddog Ymchwil a Datblygu, Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol (SMTL)

Bywgraffiad >
X Mae James yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Datblygu yn y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gynnal adolygiadau o dystiolaeth ar gyfer y Bwrdd Caffael ar Sail Tystiolaeth. Yn flaenorol, bu James yn gweithio yn Cedar, canolfan ymchwil technoleg gofal iechyd, lle roedd ei waith yn cael ei fwydo i Raglen Gwerthuso Technolegau Meddygol Cenedlaethol a’r Cynllun Rhagoriaeth Gofal Iechyd (NICE) ac i’r Rhaglen Weithdrefnau Ymyraethol. Mae gan James BSc (Anrh) mewn Microbioleg a PhD mewn Microbioleg (Prifysgol Caerdydd).
HTW Placeholder

Jennifer Hilgart

Golygydd Sicrhau Ansawdd, Cochrane

Bywgraffiad >
X Ar hyn o bryd mae Jen yn gweithio i Cochrane fel Golygydd Sicrwydd Ansawdd, yn asesu ansawdd methodolegol adolygiadau systematig a phrotocolau adolygu. Cyn hyn, bu’n gweithio mewn synthesis tystiolaeth yn Asiantaeth yr UD ar gyfer Ymchwil ac Ansawdd Gofal Iechyd (AHRQ) ac ar gyfer datblygu canllawiau NICE. Mae Jen hefyd wedi gweithio yn y byd academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ac Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol De Cymru.

Joanna Charles

Dirprwy Bennaeth Economeg Iechyd, Y Gyfarwyddiaeth Gyllid, y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Bywgraffiad >
X Dr Joanna Charles yw Dirprwy Bennaeth Economeg Iechyd Llywodraeth Cymru. Bu Joanna yn gweithio yn y byd academaidd yn flaenorol, gan gynnwys darparu cymorth economaidd iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae ganddi PhD mewn Economeg Iechyd ac mae ganddi gymwysterau mewn Seicoleg (BSc Anrh ac MSc). Mae ei diddordebau’n cynnwys gwerthusiadau economaidd o ymyriadau iechyd cyhoeddus, Cyllidebu Rhaglenni a Dadansoddiad Ymylol (PBMA), synthesis tystiolaeth a methodolegau micro-gostio.
HTW Placeholder

Athro John Staffurth

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

X
HTW Placeholder

Dr Julia Platts

Ymgynghorydd Diabetes a Meddygaeth, BIP Caerdydd a'r Fro

Bywgraffiad >
X Mae Jonathan yn Athro Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar CASCADE, y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant. Mae'n gyd-arweinydd arbenigol ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn Uwch Arweinydd Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Yn ystod 2018-2021, cafodd ei secondio i Lywodraeth Cymru ar sail rhan-amser fel cynghorydd polisi arbenigol i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol. Mae'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Mark Briggs

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro & Llysgennad Mabwysiadu Meddygaeth Fanwl, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mark yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol Arloesi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Llysgennad Meddygaeth Fanwl Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Cyn hyn, bu'n Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Triniaeth Uwch Therapi Canolbarth Lloegr a Chymru, Arweinydd Rhaglen Therapïau Uwch Cymru, Pennaeth Therapi Cell a Genynnau ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru a Phennaeth Strategaeth ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Cyn hynny, treuliodd Mark fwy nag 20 mlynedd yn gweithio ym maes ymchwil a datblygu yn y diwydiant Gwyddorau Bywyd masnachol.
A portrait of staff and/or a member

Athro Peter Groves

Cardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol, Cadeirydd, Technoleg Iechyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Peter yn Gardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau MHRA a Phwyllgor Cynghori ar Dechnolegau Meddygol NICE, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheoleiddio ac mewn asesu technoleg iechyd o ran dyfeisiau meddygol arloesol yng nghyd-destun GIG y DU. Mae Peter wedi ymrwymo i addysgu ac ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y sail wyddonol ar gyfer datblygu a defnyddio technoleg feddygol.
A portrait of staff and/or a member

Dr Rhys Morris

Cyfarwyddwr, Cedar Evaluation Centre

Bywgraffiad >
X Mae Rhys wedi bod yn Gyfarwyddwr Cedar, y Ganolfan Ymchwil Technoleg Gofal Iechyd, ers mis Awst 2020. Mae'n Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol mewn Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae ganddo hen brofiad o weithio gyda'r diwydiant Dyfeisiau Meddygol ym maes ymchwil a datblygu technegau diagnostig a therapiwtig fasgwlaidd. Mae Rhys yn arbenigo mewn atal DVT mecanyddol, ac mae'n cydlynu addysgu Ffiseg Feddygol ar lefel israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
A portrait of staff and/or a member

Dr Rob Orford

Prif Gynghorydd Gwyddonol, Llywodraeth Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Rob wedi bod yn Brif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd ers mis Ionawr 2017. Ef yw'r arweinydd proffesiynol ar gyfer Genomeg, Delweddu, Patholeg a Gwyddor Gofal Iechyd, ac mae'n ymwneud â datblygu rhaglenni cenedlaethol strategol ym maes diagnosteg a gwyddor iechyd. Mae'n gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwyr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd, Technoleg Iechyd Cymru, ac mae'n noddwr Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Cymru. Mae'n aelod o Weithgor Allanol Pwyllgor Gwyddonol Ewrop dros Iechyd, yr Amgylchedd a Risgiau sy'n dod i'r Amlwg.
A portrait of staff and/or a member

Ruth Lewis

Uwch Ddarlithydd, Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru (NWCPCR), Prifysgol Bangor

Bywgraffiad >
X Mae Ruth yn uwch ddarlithydd yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru (NWCPCR), Prifysgol Bangor. Mae hi hefyd yn aelod o Ganolfan PRIME Cymru (Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol a Brys Cymru) a Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru. Mae gan Ruth dros 20 mlynedd o brofiad o weithio fel methodolegydd adolygu systematig. Mae hi wedi gweithio ar amrywiaeth o fathau o adolygiadau sy'n cynnwys ystod eang o arwyddion therapiwtig ac ymyriadau ar gyfer arfarniadau technoleg a chanllawiau clinigol. Cyn ei gyrfa ymchwil, bu'n gweithio yn y GIG fel gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd ac ym maes archwilio clinigol. Mae ganddi PhD mewn economeg Iechyd.
A portrait of staff and/or a member

Sarah Peddle

Partner Cyhoeddus

Bywgraffiad >
X Ymunodd Sarah â Rhwydwaith Cynnwys Pobl (IPN) – cymuned cynnwys y cyhoedd erbyn hyn – ym mis Mai 2017. Mae hi hefyd yn aelod o Fwrdd Cyflawni Cynnwys y Cyhoedd, grŵp PRIME SUPER ac aelod o’r Panel Defnyddwyr ar gyfer Cyswllt Data (SAIL). Yn fwy diweddar, penodwyd Sarah yn Bartner Ymchwil Thema gyda Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae Sarah wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil ac mae'n edrych ymlaen at gyfrannu at waith Technoleg Iechyd Cymru.

I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, ewch i Gylch Gorchwyl Grŵp Asesu Technoleg Iechyd Cymru.