Mae’r grŵp hwn yn gweithredu fel ‘ drws ffrynt ‘ i ddatblygwyr technolegau iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn eu cyfeirio at sefydliadau ar draws Cymru sydd yn gallu cefnogi’r gwaith o ddatblygu, mabwysiadu ac optimeiddio’r defnydd o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r aelodau presennol wedi’u rhestru isod.

A portrait of staff and/or a member

Abi Phillips

Llywodraeth Cymru

Bywgraffiad >
X Mae ABI wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru am 15 mlynedd, ac wedi cynnal amrywiaeth o rolau polisi a chyflawni sy’n canolbwyntio ar arloesi a datblygu, ac ar weithredu technolegau newydd. Mae ganddi radd BSc mewn astudiaethau busnes, MSc mewn Polisi Iechyd, ac mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o raglenni gan gynnwys SMART Cymru a’r rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg. Ar hyn o bryd, mae hi’n Bennaeth Polisi Integredig, sef rôl drawsbynciol i wella’r broses o lunio a chyflawni polisïau ar draws Llywodraeth Cymru.

Aimee Twinberrow

Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddor Bywyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Aimee yn arweinydd prosiect o fewn y tîm Digidol ac AI yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mae hyn yn cynnwys dod â datblygiadau newydd i Gymru i gefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Cyn y rôl hon roedd Aimee yn rheolwr yn y gwasanaethau cymdeithasol yn cefnogi ystod eang o wasanaethau cymunedol megis gofal cartref, technoleg gynorthwyol ac ailalluogi. Mae Aimee yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig ac wedi bod yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol ers 13 mlynedd.

Andy Smallwood

Cyfarwyddwr Caffael Cynorthwyol, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Andy wedi gweithio ym maes rheoli caffael ers dros 25 mlynedd. Ar ôl ymgymryd â rolau cenedlaethol o fewn GIG Lloegr, mae Andy wedi treulio’r 10 mlynedd diwethaf ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel Pennaeth Cyrchu ac yn fwy diweddar fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Caffael. Yn gredwr cryf o gaffael ar sail tystiolaeth, mae Andy yn sylfaenydd y Panel Gwerthuso Data Orthopedig ac yn aelod cyfetholedig o Bwyllgor Llywio Cofrestrfa Genedlaethol y Cymalau.
HTW Placeholder

Cheryl Moore

X

Athro Chris Hopkins

Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorydd a Phennaeth Sefydliad Tritech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bywgraffiad >
X Mae’r Athro Chris Hopkins yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Sefydliad Tritech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Chris hefyd yn Gyfarwyddwr Clinigol o fewn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’n Gymrawd yr Academi ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd ac yn ddiweddar dyfarnwyd iddo Wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesi Gwyddor Gofal Iechyd yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd Prif Swyddog Gwyddonol NHS England 2022.

Debbie Laubach

Rheolwr Gweithrediadau, MediWales

Bywgraffiad >
X Mae Debbie’n goruchwylio'r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau yn MediWales, ac yn ymgysylltu'n aml ag aelodau. Mae hi’n creu ac yn hwyluso perthnasoedd ar draws y sector, ac yn helpu i gydweithio a deall anghenion y gymuned gwyddor bywyd.

Delyth James

Arweinydd Rhaglen, DHEW

Bywgraffiad >
X Mae Delyth James yn gyfrifol am ddarparu Ecosystem Iechyd Digidol Cymru sy'n dwyn ynghyd diwydiant, clinigwyr, llunwyr polisi, academyddion, arloeswyr a chyllidwyr i gyflymu'r broses o fabwysiadu technoleg gofal iechyd digidol ar draws Cymru.
HTW Placeholder

Elin Brock

Pennaeth Ymchwil, Arloesi a Gwella, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

X

Helen Northmore

Pennaeth Cenedlaethol Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Diwydiant, Technology Enabled Care Cymru

Bywgraffiad >
X Helen yw Pennaeth Cenedlaethol Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Diwydiant yn Technology Enabled Care Cymru, gan arwain y gwaith o ddatblygu ac ymgysylltu â’r rhaglen sy’n cefnogi trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru drwy roi technoleg newydd ar waith. Cyn hynny bu Helen yn gweithio yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Pennaeth Digidol ac AI, gan gysylltu’r GIG, gofal cymdeithasol a diwydiant i ddatblygu, profi a gweithredu technoleg newydd. Mae gan Helen ugain mlynedd o brofiad mewn datblygu busnes, eiriolaeth wleidyddol, partneriaethau masnachol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, datblygu polisi a chysylltiadau â’r cyfryngau.
A portrait of staff and/or a member

Dr James Evans

Swyddog Ymchwil a Datblygu, Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol (SMTL)

Bywgraffiad >
X Mae James yn gweithio fel Swyddog Ymchwil a Datblygu yn y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol. Mae ei waith yn canolbwyntio ar gynnal adolygiadau o dystiolaeth ar gyfer y Bwrdd Caffael ar Sail Tystiolaeth. Yn flaenorol, bu James yn gweithio yn Cedar, canolfan ymchwil technoleg gofal iechyd, lle roedd ei waith yn cael ei fwydo i Raglen Gwerthuso Technolegau Meddygol Cenedlaethol a’r Cynllun Rhagoriaeth Gofal Iechyd (NICE) ac i’r Rhaglen Weithdrefnau Ymyraethol. Mae gan James BSc (Anrh) mewn Microbioleg a PhD mewn Microbioleg (Prifysgol Caerdydd).

Lynda Jones

Rheolwr Prosiect, Canolfan Ragoriath SBRI

Bywgraffiad >
X Mae Lynda wedi gweithio ym maes Rheoli Prosiectau yn y GIG ers dros 15 mlynedd, ac mae ganddi hanes o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus. Ar hyn o bryd, Lynda yw Rheolwr y Ganolfan SBRI, rôl gyffrous ble mae hi’n gweithio ar draws sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru i nodi heriau iechyd ac i gydweithio â diwydiant i ddatrys yr heriau hyn drwy ddatblygu datblygiadau arloesol.
HTW Placeholder

Rachel Gemine

Uwch Ymchwilydd Datblygu, TriTech Institute, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bywgraffiad >
X Mae Dr Rachel Gemine, Ymchwil a Datblygu a Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn arwain ar geisiadau grant a rheoli ymchwil a gwerthuso. Mae hi wedi cydweithio neu arwain ar geisiadau gwerth dros £2 filiwn ac wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Rhagoriaeth Ymchwil MediWales. Mae gan Rachel brofiad o ddulliau ansoddol a meintiol, dylunio treialon, rheoli astudiaethau a chynnwys cleifion.
HTW Placeholder

Rachel Powell

Dirprwy Gyfarwyddwr Gwybodaeth, Gofal Iechyd Digidol Cymru

X

Dr Rhys Morris

Cyfarwyddwr, Cedar Evaluation Centre

Bywgraffiad >
X Mae Rhys wedi bod yn Gyfarwyddwr Cedar, y Ganolfan Ymchwil Technoleg Gofal Iechyd, ers mis Awst 2020. Mae'n Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol mewn Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae ganddo hen brofiad o weithio gyda'r diwydiant Dyfeisiau Meddygol ym maes ymchwil a datblygu technegau diagnostig a therapiwtig fasgwlaidd. Mae Rhys yn arbenigo mewn atal DVT mecanyddol, ac mae'n cydlynu addysgu Ffiseg Feddygol ar lefel israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.

Siôn Charles

Dirprwy Gyfarwyddwr, Comisiwn Bevan

Bywgraffiad >
X Siôn Charles yw Dirprwy Gyfarwyddwr melin drafod iechyd a gofal mwyaf blaenllaw Cymru, Comisiwn Bevan ac Academi Bevan. Mae’n arwain rhaglenni Arloeswyr Bevan yn ogystal â bod yn ymwneud â datblygu busnes a pholisi a digwyddiadau’r Comisiwn. Mae cefndir Siôn mewn datblygu sefydliadol a rheoli prosiectau. Fel Dirprwy Gyfarwyddwr Arweinyddiaeth a Datblygiad Sefydliadol yn AGAAGI, fe arweiniodd y prosiect Lles drwy Waith ar y cyd â Remploy, a chyflawni prosiectau TG mawr yn y DVLA.
A portrait of staff and/or a member

Dr Susan Myles

Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).

I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, ewch i dudalen Cylch Gorchwyl Grŵp Cyfeirio Drws Ffrynt Technoleg Iechyd Cymru.