Mae’r Grŵp Defnyddwyr y Diwydiant yn gydweithrediad rhwng cynrychiolwyr y diwydiant a Technoleg Iechyd Cymru, a sefydlwyd i godi ymwybyddiaeth o waith HTW ac i wella mynediad at dechnoleg ar gyfer GIG Cymru.

Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys busnesau bach a chanolig a chwmnïau rhyngwladol.  Mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â Chymru, ac maen nhw’n ymwneud â datblygu a chynhyrchu datblygiadau arloesol ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n rhoi cyfle hefyd, i HTW gael yr wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau diweddaraf y diwydiant, a nodi cyfleoedd i wella gofal iechyd yng Nghymru.

Luella Trickett
Cadeirydd y Grŵp Defnyddwyr y Diwydiant

Cyfarwyddwr, Association of British HealthTech Industries

Bywgraffiad >
X Ymunodd Luella ag ABHI yn 2019, ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiannau fferyllol a HealthTech. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio mewn sawl rôl gweithgynhyrchu a masnachol arbenigol yn Baxter Healthcare, gyda chyfrifoldeb am amrywiaeth o bortffolios cynnyrch ar draws sbectrwm HealthTech yn y DU, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Yn 2012, cafodd Luella ei secondio i'r Adran Iechyd am naw mis fel Cyswllt y Diwydiant ar gyfer Adolygiad Caffael y GIG, rôl a welodd hi'n gweithio gyda’r llywodraeth a'r sector Gwyddorau Bywyd ehangach i hwyluso rhannu syniadau ac arferion gorau. O 2015 ymlaen, arweiniodd Luella agenda Materion Llywodraeth a Pholisi Cyhoeddus Baxter Healthcare, lle cafodd y dasg o reoli polisïau allweddol sy'n effeithio ar y sector HealthTech a'r GIG – a chefnogi newid a arweiniodd at fabwysiadu arloesedd gyda gwerth ar draws lleoliadau gofal iechyd. Cyn ymuno ag ABHI, cadeiriodd Luella Grŵp Polisi Materion Cyhoeddus y Gymdeithas, ac mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr y Bwrdd yng Nghymdeithas Maeth Arbenigol Prydain.
HTW Placeholder

Amy Newton

Convatec

X
HTW Placeholder

Christopher Jones

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

X
HTW Placeholder

David Rooke

Protem Services

Bywgraffiad >
X Mae David yn gemegydd meddyginiaethol ac mae wedi gweithio yn y diwydiannau fferyllol a gwyddor bywyd ers dros 48 mlynedd. Yn gyn bennaeth ymchwil a datblygu fferyllol i Beecham a SmithKline ym maes darganfod a datblygu cynhyrchion cyffuriau, daeth David wedi hynny yn ymgynghorydd a chynghorydd i'r diwydiannau fferyllol ac awdurdodau rheoleiddio yn fyd-eang. Mae wedi creu nifer o gwmnïau newydd a chwmnïau deillio o’r Brifysgol lle mae’n sylfaenydd, cyfranddaliwr a chyllidwr gan gynnwys ProTEM Services Ltd, cwmni gwyddoniaeth ac ymchwil trosiadol ynghyd â dau gwmni technoleg sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Debbie Laubach

Rheolwr Gweithrediadau, MediWales

Bywgraffiad >
X Mae Debbie’n goruchwylio'r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau yn MediWales, ac yn ymgysylltu'n aml ag aelodau. Mae hi’n creu ac yn hwyluso perthnasoedd ar draws y sector, ac yn helpu i gydweithio a deall anghenion y gymuned gwyddor bywyd.
HTW Placeholder

Luke Evans

Cyfarwyddwr Cyswllt - Gwerthu a Marchnata, Convatec

Bywgraffiad >
X Rheolwr Gwerthu a Marchnata Cenedlaethol, gyda mwy na 18 mlynedd o brofiad ar draws meysydd Roboteg, Orthopaedeg, Pwysedd Negyddol, Gofal Clwyfau a Chynhyrchion Fferyllol. Ffocws cryf ar strategaeth, gweithredu rhagoriaeth, rheoli pobl a marchnata. Yn ystod fy ngyrfa hyd yn hyn, rwyf wedi gweithio mewn rolau sy’n cynnwys Cyfarwyddwr Cyswllt (Gwerthu a Marchnata), Rheolwr Gwerthu Cenedlaethol, Rheolwr Roboteg Cenedlaethol, Rheolwr Rhanbarthol, Rheolwr Datblygu Busnes, Rheolwr Mynediad i'r Farchnad a Rheolwr Masnachol. Mae'r ystod o rolau wedi rhoi llawer iawn o brofiad i mi a hanes o lwyddiant ar draws marchnadoedd newydd a sefydledig, boed yn caffael neu’n cynnal busnes yn unigol neu drwy adeiladu tîm llwyddiannus.
HTW Placeholder

Matthew Krolak

Eakin Health Care

X

Matthew Prettyjohns

Prif Ymchwilydd

Bywgraffiad >
X Cyn hynny, bu Matthew yn gweithio i’r Gynghrair Ganllawiau Genedlaethol, lle bu’n gweithio fel Uwch Economegydd Iechyd i geisio datblygu canllawiau ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Yn ogystal â goruchwylio ein harfarniadau technoleg, rôl Matthew fydd datblygu ein perthynas â’r diwydiant a’n swyddogaeth rhoi cyngor gwyddonol.
HTW Placeholder

Nicola Allen

ABPI

X

Susan Myles

Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).