Mae Grŵp Sefydlog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd yn darparu cyfeiriad ac arweiniad i sicrhau bod Technoleg Iechyd Cymru yn sefydlu ac yn cynnal Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd yn effeithiol drwy ei waith. Mae’r aelodau presennol wedi’u rhestru isod.

Alice Evans
Cadeirydd y Grŵp Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Technoleg Iechyd Cymru, Swyddog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Cyn ymuno â Technoleg Iechyd Cymru, dyluniodd Alice gwricwlwm o hyfforddiant sgiliau ar gyfer cleientiaid pediatrig Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd Cymru Gyfan mewn partneriaeth â chleifion a theuluoedd. Ar ôl hynny, gweithiodd Alice ym maes gofal iechyd parhaus (CHC) gyda'r de a'r dwyrain i ddatblygu hyfforddiant i wella dealltwriaeth o ofal iechyd parhaus a gofal dementia ar draws De Cymru mewn partneriaeth â rhwydweithiau cartrefi gofal a'r GIG. Nawr, yn Technoleg Iechyd Cymru, mae Alice yn gyfrifol am roi cymorth gwybodaeth i gleifion, sefydliadau cleifion, gofalwyr ac aelodau'r cyhoedd.
Alan Meudell

Alan Meudell

Partner Cyhoeddus

Bywgraffiad >
X Dros y 19 mlynedd diwethaf, mae Alan wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac wedi meithrin gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r modd y gall cynnwys y cyhoedd a chleifion fod o fudd i gynllunio polisïau, arferion a gwasanaethau ar draws pob sector. Ar hyn o bryd, mae'n gyd-ymchwilydd ar astudiaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cynghori ar ddatblygu cyfranogiad y cyhoedd a chleifion ar gyfer menter ymchwil yn India a Phacistan.
Catherine Evans O'Brien

Catherine Evans O’Brien

Partner Cyhoeddus

Bywgraffiad >
X Mae Catherine wedi bod yn gweithio fel Arweinydd Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol yng Nghomisiwn Pobl Hŷn Cymru ers 2013. Mae hi'n frwdfrydig dros ddefnyddio lleisiau a phrofiadau pobl hŷn i sbarduno datblygu polisïau. Mae Catherine wedi arwain nifer o brosiectau proffil uchel ar gyfer y Comisiynydd, gan gynnwys ymgysylltu â phobl hŷn yng Nghymru i gasglu eu profiadau o gael mynediad i ofal sylfaenol er mwyn llywio adroddiad cenedlaethol a chanllawiau cyfreithiol.
A portrait of staff and/or a member

Emma Hughes

Cynghorydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Mae Emma yn strategydd polisi deinamig gyda chefndir llwyddiannus, yn datblygu newid ar lefel leol a chenedlaethol. Mae ganddi brofiad o weithio gyda'r sectorau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, ac mae hi’n chwarae rôl weithredol yn agenda materion cyhoeddus y llywodraeth ac mewn llunio polisi iechyd a gofal cymdeithasol. Emma yw'r Rheolwr Polisi ac Ymgysylltu ar gyfer yr elusen, Genetic Alliance UK. Mae hi wedi bod yn gweithio dros y chwe blynedd diwethaf i helpu i wella systemau a phrosesau i gleifion sydd â chlefydau anghyffredin i gael mynediad i feddyginiaethau, technolegau a gwasanaethau arbenigol amddifad a thra amddifad.
A portrait of staff and/or a member

Karen Facey

Cynghorydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Bu Karen yn gweithio fel uwch ystadegydd ym maes rheoleiddio moddion a meddyginiaethau, cyn mynd i'r Alban i sefydlu'r Asiantaeth Asesu Technolegau Iechyd (HTA) genedlaethol gyntaf. Mae hi wedi bod yn gweithio fel ymgynghorydd annibynnol ers 2003, ac mae ganddi swydd ran-amser ym Mhrifysgol Caeredin, yn ymchwilio i driniaethau clefydau anghyffredin. Yn 2005, sefydlodd Grŵp Diddordeb Rhyngwladol yr HTA ar gyfer Cynnwys Cleifion/Dinasyddion, a hi oedd y prif olygydd ar y llyfr diffiniol ar gynnwys cleifion yn HTA.
Kiana Collins

Kiana Collins

Cynghorydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Mae Kiana yn gweithio fel Swyddog Gwybodaeth (Ymchwil a Thystiolaeth) yn Prostate Cancer UK. Mae hi’n gyfrifol am ddarparu dadansoddiadau a chynorthwyo prosiectau i sicrhau bod strategaeth y sefydliad yn cael ei chefnogi gan sylfaen dystiolaeth wyddonol a chlinigol. Mae gan Kiana radd BSc (Anrh) mewn Bioleg Foleciwlaidd ac Economeg ac yn ddiweddar, cwblhaodd ei gradd MSc mewn Iechyd y Boblogaeth Fyd-eang yn Ysgol Economeg Llundain, lle dyfarnwyd Gwobr Titmuss iddi am y perfformiad cyffredinol gorau.
A portrait of staff and/or a member

Sarah Peddle

Partner Cyhoeddus

Bywgraffiad >
X Ymunodd Sarah â'r Rhwydwaith Cynnwys Pobl (IPN) –y gymuned cynnwys y cyhoedd erbyn hyn – ym mis Mai 2017. Mae hi hefyd yn aelod o'r Bwrdd Cyflawni Cynnwys y Cyhoedd, grŵp PRIME SUPER ac yn aelod o SAIL (Consumer Panel for Data Linkage). Yn fwy diweddar, penodwyd Sarah yn Bartner Ymchwil Thema gyda Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae Sarah yn gwbl ymrwymedig i gefnogi cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil, ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at waith HTW.
A portrait of staff and/or a member

Siân Jones

Cynghorydd Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Siân â Rhwydwaith Cynnwys y Cyhoedd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru erbyn hyn), yn 2010. Roedd hi’n aelod o HART (Hughes Abdominal Repair Trial). Mae Siân wedi bod yn ffodus hefyd i hwyluso hyfforddiant ar ymchwil a chynnwys y cyhoedd, yn ogystal â bod yn aelod o sawl astudiaeth arall.

I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, ewch i: