Mae’r Panel Arfarnu yn ystyried tystiolaeth arfarnu Technoleg Iechyd Cymru yng nghyd-destun y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ac yn cynhyrchu canllawiau HTW. Mae’r panel hefyd yn ein helpu i nodi pynciau pwysig, yn gwerthuso’r defnydd o ganllawiau ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid. Rhestrir yr aelodau presennol isod.

Mae’r cyfarfod hwn yn agored i aelodau’r cyhoedd ei arsylwi.

A portrait of staff and/or a member

Athro Peter Groves
Cadeirydd y Panel Arfarnu

Cardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol, Cadeirydd y Panel Arfarnu

Bywgraffiad >
X Mae Peter yn Gardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau MHRA a Phwyllgor Cynghori ar Dechnolegau Meddygol NICE, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheoleiddio ac mewn asesu technoleg iechyd o ran dyfeisiau meddygol arloesol yng nghyd-destun GIG y DU. Mae Peter wedi ymrwymo i addysgu ac ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y sail wyddonol ar gyfer datblygu a defnyddio technoleg feddygol.

Dr Andrew Champion
Dirprwy Gadeirydd y Panel Arfarnu

Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwerthuso Tystiolaeth ac Effeithiolrwydd

Bywgraffiad >
X Mae Andrew wedi gweithio yn y GIG ers bron i 30 mlynedd mewn ystod eang o rolau ymchwil a rheoli. Yn sgil ei ddiddordeb cryf mewn meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn 2003, cafodd ei benodi’n Rheolwr/Cyfarwyddwr rhaglen ganllaw clinigol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Yn 2016, dechreuodd Andrew yn ei rôl bresennol ym Mhwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), lle mae bellach yn gwella'r broses o wneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth ar draws y sefydliad.
HTW Placeholder

Adele Cahill

X
Alan Meudell

Alan Meudell

Partner Cyhoeddus

Bywgraffiad >
X Dros y 19 mlynedd diwethaf, mae Alan wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau ac wedi meithrin gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r modd y gall cynnwys y cyhoedd a chleifion fod o fudd i gynllunio polisïau, arferion a gwasanaethau ar draws pob sector. Ar hyn o bryd, mae'n gyd-ymchwilydd ar astudiaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn cynghori ar ddatblygu cyfranogiad y cyhoedd a chleifion ar gyfer menter ymchwil yn India a Phacistan.

Andy Smallwood

Cyfarwyddwr Caffael Cynorthwyol, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Andy wedi gweithio ym maes rheoli caffael ers dros 25 mlynedd. Ar ôl gweithio mewn rolau cenedlaethol yn GIG Lloegr, mae Andy wedi treulio'r 10 mlynedd diwethaf yn gweithio ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru fel Pennaeth Cyrchu ac yn fwy diweddar, fel Cyfarwyddwr Caffael Cynorthwyol. Mae Andy’n gredwr cryf mewn caffael seiliedig ar dystiolaeth, ac ef yw sylfaenydd y Panel Gwerthuso Data Orthopedeg. Mae hefyd yn aelod cyfetholedig o Gyd-bwyllgor Llywio'r Gofrestrfa Genedlaethol.

Athro Chris Hopkins

Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Sefydliad TriTech, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bywgraffiad >
X Mae'r Athro Chris Hopkins yn Wyddonydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Sefydliad TriTech ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae Chris hefyd yn Gyfarwyddwr Clinigol o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae Chris yn Gymrawd yr Academi Gwyddor Gofal Iechyd ac yn ddiweddar dyfarnwyd y Wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil ac Arloesedd Gwyddor Gofal Iechyd iddo yng Ngwobrau Rhagoriaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd 2022 Prif Swyddog Gwyddonol GIG Lloegr.

Debbie Laubach

Rheolwr Gweithrediadau, MediWales

Bywgraffiad >
X Mae Debbie’n goruchwylio'r holl ddigwyddiadau a gweithgareddau yn MediWales, ac yn ymgysylltu'n aml ag aelodau. Mae hi’n creu ac yn hwyluso perthnasoedd ar draws y sector, ac yn helpu i gydweithio a deall anghenion y gymuned gwyddor bywyd.

Dr James Risley

Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bywgraffiad >
X James yw Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae’n ymgynghorydd Meddygaeth Frys, ac mae ganddo gymwysterau deuol yn y gyfraith, ac MBA Gweithredol. Mae ganddo ddiddordeb mewn arloesi ac entrepreneuriaeth, gyda ffocws ar sut i wella gofal cleifion trwy dechnoleg gofal iechyd.
A portrait of staff and/or a member

Dr Jared Torkington

Llawfeddyg y colon a'r rhefr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bywgraffiad >
X Mae Jared yn Llawfeddyg Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae ei ddiddordebau clinigol ac ymchwil yn cynnwys Llawdriniaeth Canser y Bowel a Laparosgopig. Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Meddygol Cysylltiol dros Arloesi i gefnogi'r cydweithrediad newydd â Phrifysgol Caerdydd ym maes Arloesi Clinigol. Mae'n cadeirio'r dull Tîm Amlddisgyblaethol newydd tuag at Arloesi Clinigol.
A portrait of staff and/or a member

Karen Jones

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bywgraffiad >
X Mae Jeff Stephens yn Athro Clinigol Diabetes ym Mhrifysgol Abertawe ac yn Ffisegydd Ymgynghorol mewn Diabetes, Endocrinoleg a Meddygaeth Gyffredinol yn Ysbyty Treforys. Mae'n addysgu ac yn gwneud gwaith ymchwil, ac mae'n parhau i fod yn ffisegydd. Mae'n aelod o Bwyllgor Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Diabetes UK, ac yn cadeirio Pwyllgor Trefnu Cynhadledd Broffesiynol Diabetes UK ar gyfer 2020 a 2021. Mae wedi bod yn gweithio mewn rolau arwain hefyd ym maes Addysg Feddygol, ac mae ganddo dros 180 o gyhoeddiadau ymchwil wedi’u hadolygu gan gymheiriaid.
A portrait of staff and/or a member

Lee Davies

Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio, Hywel Dda UHB

Bywgraffiad >
X Mae Lee wedi gweithio i GIG Cymru ers 18 mlynedd, ar ôl ymuno â Rhaglen Graddedigion GIG Cymru ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, lle bu'n astudio ffiseg. Bu’n gweithio mewn swyddi rheoli gweithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, cyn ymgymryd â rôl gwella perfformiad gydag Uned Cyflenwi a Chymorth GIG Cymru. Yn 2013, ymunodd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a daeth yn Gyfarwyddwr Cynllunio Gweithredol dair blynedd yn ddiweddarach. Mae gan Lee gyfoeth o brofiad o weithio gyda thimau clinigol i sicrhau newid trawsnewidiol er budd gofal cleifion. Enghraifft ddiweddar oedd sefydlu CAV 24/7, dull newydd o ymdrin â sut mae cleifion yn cael mynediad at ofal brys o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y defnydd o ddata a dadansoddeg i gefnogi gwella ac ailgynllunio gwasanaethau.
A portrait of staff and/or a member

Dr Lisa Trigg

Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil, Data a Deallusrwydd, Gofal Cymdeithasol Cymru

Bywgraffiad >
X Rôl Lisa yw cefnogi’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru gyda thystiolaeth ac ymchwil i lywio’r gwaith o gynllunio polisïau a gwasanaethau. Cyn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru, treuliodd Lisa saith mlynedd yn Ysgol Economeg Llundain yn cynnal ymchwil cymharol ar systemau gofal hirdymor. Roedd ei hymchwil PhD yn archwilio ffyrdd o sicrhau ansawdd mewn gofal preswyl. Cyn hynny, treuliodd Lisa ddwy flynedd ar bymtheg mewn rolau rheoli ac ymgynghori yn Awstralia a’r DU.
HTW Placeholder

Louise Baker

Prosiectau, Arloesi a Mabwysiadu, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

X

Luella Trickett

Cyfarwyddwr, Association of British HealthTech Industries

Bywgraffiad >
X Ymunodd Luella ag ABHI yn 2019, gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau fferyllol a’r diwydiannau iechyd. Yn ystod ei gyrfa, mae hi wedi gweithio mewn nifer o rolau gweithgynhyrchu a masnachol arbenigol ym maes Gofal Iechyd Baxter, ac mae hi’n gyfrifol am amrywiaeth o bortffolios cynnyrch ar draws y sbectrwm Technoleg Iechyd yn y DU, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
HTW Placeholder

Maria Selby

Prif Swyddog Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Canolfan Ddinesig Castell-nedd

X
A portrait of staff and/or a member

Mohid Khan

Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bywgraffiad >
X Mae Mohid yn gweithio fel Gastroenterolegydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae wedi arwain y gwaith o drawsnewid y Gwasanaeth Canser Niwroendocrin yn Ne Cymru drwy ddull seiliedig ar Werth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a phrofiad a adroddir gan gleifion, gan gyflawni statws Canolfan Ragoriaeth Ewropeaidd. Mae wedi bod yn gweithio mewn rolau arweiniol mewn amrywiaeth o brosiectau gofal iechyd digidol, arloesi ac ymchwil clinigol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Phil Barnes

Pennaeth Gwybodaeth Sector, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Dr. Phil Barnes yn arwain y Tîm Gwybodaeth Sector yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gan ddarparu gwasanaethau dadansoddi marchnad a chynllunio busnes i Fyrddau Iechyd a BBaChau. Gyda chefndir technegol mewn niwrowyddoniaeth foleciwlaidd a Chlefyd Alzheimer, mae Phil wedi gweithio o'r blaen yn y sectorau trosglwyddo technoleg a bancio buddsoddi.

Rhidian Hurle

Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, DHCW

Bywgraffiad >
X Penodwyd Rhidian yn Brif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru yn 2015 ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Iechyd Digidol Cymru. Mae’n parhau ag ymarfer clinigol rhan amser fel Llawfeddyg Ymgynghorol y GIG yn gweithio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gan arbenigo mewn oncoleg wrolegol. Mae gan Rhidian radd meistr gyda rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth Iechyd Digidol ac mae'n Gymrawd Sefydlu'r Gyfadran Gwybodeg Glinigol. Mae ganddo ddiddordeb brwd yn y defnydd o dechnoleg fel galluogwr darpariaeth gofal iechyd o ansawdd uchel gyda ffocws arbennig ar ryngwynebau defnyddwyr ac mae wedi ymrwymo i ddefnyddio technoleg i yrru gwelliannau yn ansawdd ac effeithlonrwydd gofal iechyd.
A portrait of staff and/or a member

Dr Rhodri Davies

Ymgynghorydd Cardioleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Rhodri yn Ymgynghorydd Cardioleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac yn Athro Clinigol Cyswllt yn Sefydliad y Gwyddorau Cardiofasgwlaidd, Coleg Prifysgol Llundain. Mae ganddo gefndir mewn cyfrifiadureg a dysgu peirianyddol, a'i brif ddiddordebau ymchwil yw defnyddio dulliau AI ar gyfer gofal clinigol er mwyn gwella rheolaeth cleifion a chael mewnwelediad newydd i glefydau.
HTW Placeholder

Sara Pickett

X
A portrait of staff and/or a member

Dr Susan Myles

Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).
HTW Placeholder

Tim O'Sullivan

Pennaeth Ymchwil ac Academia, DHCW

X
A portrait of staff and/or a member

Dr Tom Crosby

Oncolegydd Ymgynghorol, Cynrychiolydd ymgynghorol, Canolfan Ganser Felindre

Bywgraffiad >
X Mae Tom yn Gyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser Cymru, ac yn Arweinydd Clinigol Trawsnewid Systemau Clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae’n gweithio yng Nghanolfan Ganser Felindre ac ar hyn o bryd, mae'n arbenigo ym maes canser gastroberfeddol uwch; mae Tom yn arweinydd ym maes Ymchwil, Gwasanaeth a Datblygu Cemo-radiotherapi yr Oesoffagws a Gastroberfeddol Uwch yn y DU. Ar hyn o bryd, Tom yw arweinydd clinigol y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Canser yn Ne Ddwyrain Cymru.

William Oliver

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

X
HTW Placeholder

X

Mae’r Panel Arfarnu yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru, ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill. I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, ewch i dudalen Cylch Gorchwyl Panel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru.