Mae ein gwaith yn cael ei wneud gan dîm Technoleg Iechyd Cymru. Rydym yn grŵp amlddisgyblaethol sy’n cynnwys clinigwyr, ymchwilwyr gwasanaethau iechyd, economegwyr iechyd ac arbenigwyr gwybodaeth, gyda chymorth cyfathrebu, rheoli prosiectau a gweinyddol.

Alice Evans

Alice Evans

Swyddog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Sasha â HTW ym mis Mehefin eleni. Cyn hynny, bu'n gweithio fel Arbenigwr Cymeradwyo ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, lle'r oedd ei phrif gyfrifoldebau yn cynnwys cynnal adolygiadau llywodraethu o geisiadau ymchwil, a goruchwylio un o'r pwyllgorau moeseg yng Nghymru. Roedd yn cefnogi ac yn cynghori ymchwilwyr hefyd ar ofynion moesegol a chyfreithiol eu hastudiaeth ymchwil. Tra'n gweithio yno, cwblhaodd radd MSc mewn Ymchwil Glinigol.
Antonia Needham

Antonia Needham

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Antonia â HTW ym mis Gorffennaf 2022. Cyn hyn, mae hi wedi gweithio ar brosiectau ymchwil lluosog yn canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelu oedolion a phlant yng nghyd-destun Cymru gyda’r NISB a Llywodraeth Cymru. Mae gan Antonia MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol a Chymdeithaseg a BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd. Dechreuodd Antonia ymddiddori mewn ymchwil gwasanaethau iechyd yn ystod ei MSc, a oedd yn canolbwyntio ar ddulliau iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais.
Caron Potter

Caron Potter

Cynorthwyydd Gweithredol

Bywgraffiad >
X Mae gan Caron brofiad o weithio ym maes gwasanaeth gofal eilaidd, ar ôl gweithio ar draws GIG Cymru. Cyn hynny, roedd hi'n Gynorthwyydd Gweithredol ar gyfer Athro Llawfeddygaeth. Roedd hi’n Rheolwr Gweinyddol hefyd, yn rheoli tîm o ddeg o bobl ac yn gweithio i leihau rhestri aros cleifion. Mae hi wedi datblygu gwybodaeth am y maes personél, ac wedi cyflwyno arfarniadau datblygiad a gweithdrefnau absenoldeb oherwydd salwch. Mae Caron yn parhau i ddatblygu gweithdrefnau a phrosesau gweithredu yn Technoleg Iechyd Cymru i ateb gofynion y sefydliad.
Charlotte Bowles

Charlotte Bowles

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Charlotte â Technoleg Iechyd Cymru fel Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ym mis Mehefin 2021. Cyn hynny, bu'n Adolygydd Tystiolaeth Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, lle bu'n gweithio ar gynhyrchu, methodoleg a dadansoddi adroddiadau International Horizon Scanning . Mae gan Charlotte radd Meistr mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd a graddiodd hefyd, o Brifysgol Fetropolitan Manceinion gyda gradd mewn Gofal Cymdeithasol.
A portrait of staff and/or a member

Dr Claire Davis

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, roedd Claire yn cefnogi Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) mewn gwerthuso meddyginiaethau am ddeng mlynedd. Tra yno, datblygodd Claire frwdfrydedd mawr dros y maes Cynnwys y Cleifion a'r Cyhoedd (PPI) a bu’n arwain yn y maes hwn, gan greu'r strategaeth PPI gyntaf ar gyfer AWMSG. Ei nod yw sefydlu strategaeth PPI effeithiol ym maes Technoleg Iechyd Cymru. Mae gan Claire PhD mewn Ffarmacoleg, a phrofiad blaenorol mewn ymchwil glinigol ac academia.
Clare England

Dr Clare England

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Clare â Technoleg Iechyd Cymru fel Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ym mis Ionawr 2023. Cyn hynny, bu'n Gymrawd Ymchwil mewn Maeth yng Nghanolfan Ymchwil Biofeddygol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, Prifysgol Bryste, lle bu'n arwain ac yn cydweithio ar brosiectau ymchwil maeth clinigol, yn defnyddio ystod eang o fethodolegau, ac yn canolbwyntio ar y broses adolygu systematig. Cyn hyn, hyfforddodd a gweithiodd Clare fel deietegydd, gan arbenigo mewn Addysg Diabetes, cyn cwblhau gradd PhD mewn Polisi Cymdeithasol o Brifysgol Bryste; yn ystod y cyfnod hwnnw, datblygodd dechneg sgrinio deietegol fer ar gyfer pobl â diabetes teip 2.
David Jarrom

Dr David Jarrom

Prif Ymchwilydd

Bywgraffiad >
X Ymunodd David â Thechnoleg Iechyd Cymru ym mis Chwefror 2018. Mae'n arwain ein gwaith o sganio’r gorwelion a datblygu methodoleg o fewn y sefydliad. Ar ôl cwblhau ei PhD mewn gwyddoniaeth fiofeddygol, mae David wedi treulio'r 10 mlynedd diwethaf yn gweithio ym maes meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac asesu technoleg iechyd ar gyfer nifer o sefydliadau yng Nghymru a'r DU, gan gynnwys NICE ac AWMSG.
A portrait of staff and/or a member

Diana Milne

Swyddog Cyfathrebu

Bywgraffiad >
X Ymunodd Diana â Technoleg Iechyd Cymru fel Swyddog Cyfathrebu ym mis Hydref 2021. Ar ôl graddio o Brifysgol Warwick gyda gradd mewn Hanes, hyfforddodd fel newyddiadurwr. Yna, gweithiodd Diana fel gohebydd newyddion ar bapurau newydd rhanbarthol, a threuliodd dair blynedd yn gweithio fel newyddiadurwr yn yr UAE. Ar ôl dychwelyd i'r DU, golygodd gyhoeddiadau busnes ac ysgrifennodd erthyglau ar gyfer cylchgronau rhanbarthol. Cyn ymuno â HTW, bu'n Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus yn ASH (Action on Smoking and Health) Cymru.
A portrait of staff and/or a member

Elise Hasler

Arbenigwr Gwybodaeth

Bywgraffiad >
X Ers graddio mewn Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth, mae Elise wedi gweithio yn y sector iechyd ers dros 20 mlynedd – ac wedi treulio 15 o'r rheini yn gweithio ar ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Dechreuodd ei gyrfa fel llyfrgellydd yn Llyfrgell Glinigol Swydd Henffordd a daeth wedyn, yn Arbenigwr Gwybodaeth yn y Ganolfan Genedlaethol Cydweithredu ar gyfer Canser ac yn ddiweddarach. ymunodd â'r Natinal Guideline Alliance. Ymunodd Elise â HTW ym mis Medi 2021, ac mae hi’n mwynhau gweithio ar brosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i ofal cleifion.
A portrait of staff and/or a member

Dr Greg Hammond

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Mae gan Greg radd BSc mewn optometreg, a chymhwysodd fel optometrydd yn 2014, a bu'n gweithio mewn practis cymunedol am nifer o flynyddoedd. Dychwelodd i Brifysgol Caerdydd, ac enillodd ei radd PhD mewn bioleg strwythurol/gwyddorau’r golwg yn 2021. Yn ystod ei PhD, aeth ar leoliad gyda Llywodraeth Cymru yn asesu'r dystiolaeth am brofion golwg rheolaidd i blant, a defnyddio’r wybodaeth hon i helpu i greu polisi. Yn dilyn hyn, bu'n gweithio fel rheolwr polisi ar gyfer y meysydd optometreg ac awdioleg yn Llywodraeth Cymru, lle arweiniodd ar ddiwygio optometreg.
A portrait of staff and/or a member

Hayley Bennett

Economegydd Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Hayley â Technoleg Iechyd Cymru fel economegydd iechyd yn 2022. Cyn hynny, bu'n gweithio am 10 mlynedd mewn cwmnïau ymgynghori ac yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe, gan ymchwilio i werth economaidd iechyd ymyriadau gofal iechyd a pherfformio gwerthusiadau i'w cyhoeddi. Dechreuodd Hayley ymddiddori mewn modelu gofal iechyd yn ystod ei MSc mewn Ymchwil Weithredol.
A portrait of staff and/or a member

Jenni Washington

Arbenigwr Gwybodaeth

Bywgraffiad >
X Ar ôl graddio mewn Mathemateg, rhoddodd ei chariad at ddarllen Jenni ar lwybr Llyfrgellyddiaeth a Gwyddor Gwybodaeth. Mae ei dealltwriaeth o ddamcaniaeth set a meddwl rhesymegol yn ei gwneud hi'n ddelfrydol ar gyfer chwilio am lenyddiaeth ar-lein. Bu'n gweithio fel Gwyddonydd Gwybodaeth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, y diwydiant nwyddau defnyddwyr a Rhwydwaith Canllawiau Rhyng-golegol yr Alban, cyn dechrau gweithio i Technoleg Iechyd Cymru.
A portrait of staff and/or a member

Jessica Williams

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Jessica â Technoleg Iechyd Cymru fel Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ym mis Tachwedd 2019. Cyn hynny, roedd yn Awdur Meddygol yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, yn cefnogi asesu technolegau iechyd yn ymwneud â meddyginiaeth, a dod o hyd i feddyginiaethau newydd. Mae'r profiad hwn wedi arwain at gyfraniad Jessica yn y gwaith o sganio'r gorwel yn Technoleg Iechyd Cymru. Mae gan Jessica radd Meistr mewn Gwyddoniaeth Naturiol, a phrofiad blaenorol mewn ymchwil glinigol.
A portrait of staff and/or a member

June Price

Rheolwr Gweithrediadau Busnes

Bywgraffiad >
X Mae June yn Aelod Siartredig o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), gydag 20 mlynedd o brofiad mewn Adnoddau Dynol. Ymunodd â HTW fel Rheolwr Gweithrediadau Busnes, gan symud o dîm Datblygu'r Gweithlu a Sefydliadol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cyn hynny, bu June yn gweithio ar brosiectau adnoddau'r Ganolfan Trawma Mawr a Dragons Heart. Yn ogystal â chwarae rhan yn y gwaith o lunio sefydliad sy'n datblygu, rôl June yw goruchwylio swyddogaeth weithredol a gweinyddol y sefydliad.
Katie McDermott portrait

Katie McDermott

Rheolwr Prosiect

Bywgraffiad >
X Katie yw Rheolwr Prosiect Technoleg Iechyd Cymru, ac mae ganddi brofiad helaeth mewn datblygu prosesau a chynnyrch, ac mewn rhoi systemau newydd ar waith. Cyn ymuno â’r tîm, bu Katie yn gweithio yn Deoniaeth Cymru, lle bu’n gyfrifol am recriwtio a rheoli rhaglenni i feddygon sy’n dilyn hyfforddiant arbenigol ledled Cymru.
Leona Batten

Leona Batten

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Leona â HTW fel Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ym mis Mawrth 2023. Cyn hyn, bu’n gweithio fel Rheolwr Treialon ar hap-dreialon clinigol rheoledig oncoleg Cam III rhyngwladol mawr ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Sefydliad Ymchwil Canser. Mae gan Leona BSc mewn Gwyddor Biofeddygol o Brifysgol Reading ac ar hyn o bryd mae'n dilyn gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Caerdydd.
A portrait of staff and/or a member

Lisa King

Uwch Reolwr Rhaglen

Bywgraffiad >
X Mae gan Lisa radd mewn Geneteg, a threuliodd ran gyntaf ei gyrfa yn dyfarnu cyllid Ymchwil a Datblygu (R&D) i gwmnïau. Ar ôl symud ymlaen i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol yr UE a'r DU, ymunodd Lisa â Phrifysgol Bryste, lle sefydlodd a rheolodd Ganolfan Gwyddor Iechyd Academaidd Partneriaid Iechyd Bryste. Mae Lisa'n hapus dros ben o fod wedi ymuno â thîm HTW ym mis Rhagfyr 2021, a bydd yn arwain ein Tîm Rheoli Rhaglenni. Mae Lisa'n angerddol am gydweithio, ac mae hi’n edrych ymlaen at gymhwyso ei gwybodaeth a'i phrofiad i sicrhau bod HTW yn cyflawni ei nodau strategol
A portrait of staff and/or a member

Llinos Jones

Cyfieithydd Iaith Gymraeg

Bywgraffiad >
X Ar ôl graddio mewn Sbaeneg o Brifysgol Aberystwyth, symudodd Llinos i Gaerdydd, lle mae hi wedi bod yn gweithio fel cyfieithydd ers blynyddoedd lawer. Mae'n gweithio i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre bedwar diwrnod yr wythnos, ac i Technoleg Iechyd Cymru un diwrnod yr wythnos, yn darparu gwasanaeth cyfieithu i'r sefydliad.
A portrait of staff and/or a member

Mafalda Gordo

Cynorthwyydd Cymorth Busnes a Chyfathrebu

Bywgraffiad >
X Graddiodd Mafalda o Brifysgol Lisbon gyda gradd yn y Gwyddorau, Cyfathrebu a Diwylliant, cyn mynd ymlaen i weithio fel dadansoddwr rheoli ansawdd yng nghwmni ymchwil y farchnad byd-eang, Nielsen. Ymunodd â HTW ym mis Tachwedd 2021 ar ôl symud i Gaerdydd, ar gytundeb dros dro i ddechrau, i gynorthwyo'r Swyddog Cyfathrebu gyda chynnwys digidol ac i baratoi'r Adroddiad Blynyddol. Yna, cafodd ei phenodi’n Gynorthwyydd Cymorth Busnes a Chyfathrebu llawn amser.

Matthew Prettyjohns

Arbenigwr Gwybodaeth

Bywgraffiad >
X Cyn hynny, bu Matthew yn gweithio i’r Gynghrair Ganllawiau Genedlaethol, lle bu’n gweithio fel Uwch Economegydd Iechyd i geisio datblygu canllawiau ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Yn ogystal â goruchwylio ein harfarniadau technoleg, rôl Matthew fydd datblygu ein perthynas â’r diwydiant a’n swyddogaeth rhoi cyngor gwyddonol.
Nathan Bromham photo

Nathan Bromham

Uwch-ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunais â Thechnoleg Iechyd Cymru ym mis Mehefin 2023 fel uwch ymchwilydd gwasanaethau iechyd. Cyn hynny, gweithiais yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fel uwch adolygydd systematig ar ganllawiau. Rwyf wedi gwneud rolau tebyg yn y National Guideline Alliance hefyd, a'r Ganolfan Genedlaethol Cydweithredu dros Ganser.
Peter Groves

Athro Peter Groves

Cadeirydd y Panel Arfarnu

Bywgraffiad >
X Mae Peter yn Gardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau MHRA a Phwyllgor Cynghori ar Dechnolegau Meddygol NICE, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheoleiddio ac mewn asesu technoleg iechyd o ran dyfeisiau meddygol arloesol yng nghyd-destun GIG y DU. Mae Peter wedi ymrwymo i addysgu ac ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y sail wyddonol ar gyfer datblygu a defnyddio technoleg feddygol.
A portrait of staff and/or a member

Rebecca Boyce

Economegydd Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Rebecca â Technoleg Iechyd Cymru fel economegydd iechyd yn 2021, yn dilyn 5 mlynedd yn gweithio mewn cwmni ymgynghori. Yno, enillodd brofiad o weithio fel modelwr economaidd iechyd, gan weithio ar amrywiaeth o gyflwyniadau HTA. Mae ei chymwysterau'n cynnwys gradd MSc mewn Economeg Iechyd o Brifysgol Caerefrog.
A portrait of staff and/or a member

Rebecca Shepherd

Rheolwr Cymorth Prosiectau

Bywgraffiad >
X Ymunodd Rebecca â Technoleg Iechyd Cymru ym mis Mawrth 2021. Cyn hynny, roedd yn Uwch Swyddog Busnes a Chymorth yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a bu hefyd yn gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Swyddog Busnes a Chymorth ac yn isadran fferylliaeth Canolfan Ganser Felindre. Graddiodd o Brifysgol Cymru yng Nghasnewydd gyda gradd mewn celf ffotograffig.
A portrait of staff and/or a member

Sophie Hughes

Uwch Economegydd Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Sophie â Thechnoleg Iechyd Cymru fel economegydd iechyd ym mis Rhagfyr 2018. Cyn hynny, roedd yn economegydd iechyd yn y Ganolfan Ganllawiau Genedlaethol, lle bu'n gweithio ar y canllawiau cenedlaethol ar gyfer rheoli strôc acíwt a chlefydau cildroadol. Dechreuodd Sophie ymddiddori mewn economeg iechyd tra’n astudio ar gyfer ei gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd. Mae ganddi radd Meistr mewn Biocemeg hefyd.

Sian Cousins

Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd

Bywgraffiad >
X Ymunodd Siân â Technoleg Iechyd Cymru ym mis Gorffennaf 2023. Cyn hynny, roedd Siân yn Gymrawd Ymchwil yn thema Arloesi Llawfeddygol Canolfan Ymchwil Biofeddygol NIHR Bryste, lle bu'n gweithio ar ddatblygu dulliau i hwyluso arloesi a gwneud y gorau o gyflwyno prosesau a dyfeisiau ymledol yn ddiogel a thryloyw i ymarfer clinigol y GIG. Bu Siân yn gweithio ar ddatblygu dulliau a chanllawiau ar gyfer dylunio a chynnal treialon llawfeddygol a reolir gan y placebo hefyd, i lywio ymarfer ar sail tystiolaeth. Cwblhaodd Siân ei gradd PhD mewn Niwrowyddoniaeth Arbrofol yng Ngholeg Imperial Llundain, a daliodd swyddi ôl-ddoethurol yng Ngholeg Kings Llundain ac yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
A portrait of staff and/or a member

Dr Susan Myles

Cyfarwyddwr

Bywgraffiad >
X Mae Susan wedi bod yn ymwneud ag asesu technoleg iechyd cymhwysol ers 25 mlynedd. Cyn ymuno â Thechnoleg Iechyd Cymru, bu'n arwain datblygiad a gwaith Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban. Mae Susan wedi derbyn ysgoloriaethau gan yr Adran Iechyd a’r Cyngor Ymchwil Meddygol, ac mae hi wedi derbyn Cymrodoriaeth Harkness mewn Polisi Gofal Iechyd. Mae ganddi gymwysterau mewn Economeg (BA), Economeg Iechyd (MSc a PhD) ac Epidemioleg (PgDip).