Arweinwyr blaenllaw ym maes gofal iechyd a thechnoleg yn ymuno â Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Rydym wedi penodi tri arweinydd nodedig o bob rhan o’r maes gofal iechyd a thechnoleg i ymuno â’n Bwrdd. Mae Peter Bannister, Malcolm Lowe-Lauri a Neil Mesher yn dod â’u harbenigedd eithriadol a’u gweledigaeth strategol i helpu i lunio dyfodol arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r penodiadau hyn yn garreg filltir bwysig i ni, gan gryfhau ein gallu i wneud Cymru yn lle o ddewis ar gyfer arloesi a buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd cyfoeth o fewnwelediad strategol ac arweinyddiaeth ddeinamig pob aelod newydd o’r Bwrdd yn helpu i wella ansawdd gofal, sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl a sbarduno twf economaidd hanfodol a chreu swyddi.
Mae Peter Bannister yn cyfuno ei brofiad helaeth yn y byd academaidd a diwydiant i gyflwyno atebion arloesol a sicrhau twf, gyda hanes llwyddiannus â busnesau biofeddygol sy’n arbenigo mewn llawfeddygaeth, diagnosteg a llwybrau triniaeth ddigidol. Mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Romilly Life Sciences Ltd, yn darparu ymgynghoriaeth strategaeth cynnyrch digidol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Birmingham ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cymhwysol.
Mae ganddo Ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen mewn delweddu meddygol, a phrofiad, lle bu’n gweithio mewn partneriaeth â Rolls Royce i arloesi datblygiad masnachol technolegau deallusrwydd artiffisial byd-eang.
Soniodd Peter am sut roedd yn edrych ymlaen at ddefnyddio ei arbenigedd:
“Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar adeg pan fydd angen technoleg gofal iechyd sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn fwy nag erioed, yn enwedig os ydym am symud baich iechyd a gofal o fodelau adweithiol i fodelau ataliol.
“Rwy’n arbennig o awyddus i fanteisio ar fy arbenigedd mewn masnacheiddio dyfeisiau meddygol, dyfeisiau meddygol, iechyd digidol a deallusrwydd artiffisial mewn consortia BBaChau a byd-eang, traws-sector i sicrhau bod arloesedd yn gallu gwireddu buddion diriaethol i bobl Cymru a hefyd yn cynyddu’n gyflym i boblogaethau amrywiol eraill.”
Mae gan Malcolm Lowe-Lauri dros bedwar degawd o brofiad o lunio newid mewn darpariaeth gofal iechyd, ymchwil ac arloesi – gan gynnwys gweithredu fel Prif Swyddog Gweithredol ar draws nifer o Ymddiriedolaethau GIG y DU.
Mae’n Brif Swyddog Gweithredol Academic Health Solutions (AHS) ac yn Gynghorydd Strategaeth i Archus, lle mae’n darparu dulliau arloesol o fodelu clinigol a llwybrau. Mae wedi helpu i lunio diwygiadau, ymchwil a datblygiadau’r GIG, a chyrff arloesi fel Rhwydweithiau Gwyddor Gofal Iechyd Academaidd.
Mae ei rolau arwain blaenorol yn cynnwys Pennaeth Iechyd a Gwyddorau Bywyd yn Grant Thornton a Chyfarwyddwr Gweithredol Partner Iechyd Prifysgol Caergrawnt.
Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Malcolm:
“Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. O’m gwaith fy hun yng Nghymru a ledled y DU, rwy’n gwybod faint o botensial sydd i ddatblygu gwyddorau bywyd yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r tîm yn nes ymlaen ym mis Medi a dechrau arni.”
Mae Neil Mesher wedi cael gyrfa 27 mlynedd drawiadol yn Philips, gan ddal amrywiaeth o swyddi arwain uwch ar draws adrannau gofal iechyd a defnyddwyr, gan arwain at ei benodi’n Uwch Is-Lywydd ar gyfer Gorllewin Ewrop.
Mae’n gyfrifol am y busnes Systemau Iechyd yn rhanbarthau’r Gogledd Orllewin ac mae’n arwain y portffolio atebion ar gyfer Gorllewin Ewrop. Mae Neil hefyd yn defnyddio’r profiad hwn i gynnig mewnwelediad strategol fel cyfarwyddwr anweithredol yn MyHealthChecked o Gaerdydd, Cadeirydd Cymdeithas Diwydiannau Technoleg Iechyd Prydain (ABHI) a chyd-gadeirydd y Grŵp Partneriaeth Technoleg Iechyd Gweinidogol.
Siaradodd Neil am ei benodiad, gan ddweud:
“Rwy’n falch iawn o gael ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn ar gyfer y sector Technoleg Iechyd ehangach. Mae’r heriau sy’n wynebu’r holl systemau gofal iechyd aeddfed wedi’u cofnodi’n dda, ond credaf fod gennym amgylchedd unigryw yng Nghymru lle gallwn feithrin perthynas fwy cydweithredol rhwng darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, y byd academaidd a diwydiant er budd hirdymor cleifion.”
Mae’r tri phenodiad hyn yn disodli Aelodau’r Bwrdd sy’n ymadael, Jarred Evans a Catherine O’Brien.
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydyn ni’n croesawu Peter Bannister, Malcolm Lowe-Lauri a Neil Mesher yn gynnes i’n Bwrdd. Mae eu profiad cyfun o greu newid trawsnewidiol ar draws gofal iechyd a diwydiant yn cyd-fynd â’n nodau i hyrwyddo arloesedd ym maes gwyddorau bywyd i’n rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac edrychwn ymlaen at eu dealltwriaeth a’u harweiniad strategol wrth gyflawni hyn.
“Hoffwn hefyd fynegi fy niolch dwysaf am gyfraniadau gwerthfawr aelodau’r Bwrdd sy’n ymadael, Jarred Evans a Catherine O’Brien. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich gwaith dros y chwe blynedd diwethaf yn ein helpu i lunio arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Dysgwch fwy am y gwaith rydyn ni’n ei wneud.