Astudiaeth Achos

06 Mai, 2020

Astudiaeth Achos: Crynodeb o Dystiolaeth COVID-19

A graphic


Beth wnaethom ni ei wneud?

Un o dasgau cyntaf Technoleg Iechyd Cymru (HTW) mewn ymateb i achosion o’r clefyd coronafeirws (COVID-19) oedd creu ‘crynodeb o dystiolaeth.’ Rhestr yw hon o dystiolaeth o ffynonellau dibynadwy a gasglwyd ynghyd gennym mewn un lle er mwyn arbed amser i ddefnyddwyr.

Cyhoeddwyd y crynodeb am y tro cyntaf ar 27 Mawrth 2020 ac fe’i diweddarir yn wythnosol i roi gwybodaeth gyfoes i ddefnyddwyr. Mae’r crynodeb yn trefnu sefydliadau mewn categorïau yn seiliedig ar eu ffocws daearyddol ac mae’n cynnwys sefydliadau o Gymru, y DU, rhai rhyngwladol a byd-eang, e.e. Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r crynodeb o dystiolaeth yn rhoi unrhyw sylwadau ar ansawdd y dystiolaeth, y defnyddwyr sydd i benderfynu ar hynny drostynt eu hunain.

Gyda phwy?

Mae ein harbenigwr gwybodaeth, sy’n cynhyrchu’r crynodeb o dystiolaeth, wedi cydweithio â chydweithwyr yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys Llyfrgell Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban (SHTG) a rhestrau postio gwyddor gwybodaeth ehangach.

Mae’r crynodeb wedi’i anelu at unrhyw un ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a thu hwnt sy’n cynnal ymchwil neu’n chwilio am dystiolaeth ynglŷn â COVID-19. Rydym wedi ei rannu gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn Llywodraeth Cymru, iechyd a gofal cymdeithasol, a hefyd sefydliadau asesu technoleg iechyd eraill.

Beth fu’r ymateb?

Edrychwyd ar dudalen we’r crynodeb dros 600 o weithiau yn ystod y mis cyntaf yr oedd ar-lein. Mae hefyd wedi cael ei gynnwys yn e-lyfrgell GIG Cymru ar gyfer iechyd ac yn adran llyfrgell diweddariad dyddiol staff Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Pa wahaniaeth wnaeth hyn?

Gall defnyddwyr nawr leoli ffynonellau tystiolaeth am COVID-19 mewn un lle, mewn modd dibynadwy ac amserol. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws canfod tystiolaeth a gwneud penderfyniadau sydd wedi’u llywio gan dystiolaeth, gan hefyd ganiatáu i adnoddau gael eu defnyddio’n fwy effeithiol.

Defnyddiwyd y crynodeb o dystiolaeth mewn sifft llenyddiaeth gan ein hymchwilwyr ein hunain. Roedd hyn yn rhan o’r broses a gynhyrchodd adolygiad tystiolaeth o brofion i ganfod presenoldeb feirws SARS-CoV-2 neu wrthgyrff i SARS-CoV-2 er mwyn llywio diagnosis COVID-19.