Astudiaeth Achos

16 Medi, 2020

Astudiaeth achos: Peilotio’r offeryn META gydag Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan

A graphic with a

Beth wnaethom ni?

Rydym wedi treialu Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW gyda charfan o Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan, sef grŵp o syniadau arloesol wedi’u dewis gan Gomisiwn Bevan i’w hymarfer.

Drwy ymgysylltu â Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW, cynyddodd Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan eu hymwybyddiaeth o broses a gofynion asesu technoleg iechyd (HTA). Canolbwyntiwyd yn benodol ar y dystiolaeth glinigol ac economeg iechyd sydd ei hangen, i ddangos bod technoleg newydd yn cynnig gwerth i gleifion a systemau gofal iechyd.

Defnyddiodd Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW offeryn Asesu Technegol Cynnar Medtech (META), a ddatblygwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae’r offeryn META yn blatfform ar-lein i helpu datblygwyr technoleg i wneud y gorau o’u cynlluniau. Darparodd fframwaith strwythuredig i helpu i ddarganfod bylchau posibl yn sylfaen dystiolaeth neu yng nghynlluniau casglu tystiolaeth cynnyrch.

 

Gyda phwy?

Cynigiodd HTW sesiynau hwyluso META (sesiynau peilot) i garfan Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan yn 2019. Yna, cwblhawyd asesiadau ac adroddiadau offer META ar gyfer dau o’r esiamplau, Prosiect CHEETAH (CHolEcystEcTomy – Accelerated hospital Management)

 

Beth oedd yr ymatebion?

Phrosiect CHEETAH drafodaethau i’r meysydd penodol a godwyd am eu technolegau drwy’r asesiad offeryn META strwythuredig. Roedd ganddynt ddiddordeb hefyd, mewn trafodaethau am ofynion tystiolaeth a phrosesau HTA yn fwy cyffredinol hefyd.

 

Beth wnaeth pobl ei ddysgu?

Dysgodd Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan am y bylchau posibl yn y sylfaen dystiolaeth bresennol neu yn y cynlluniau casglu tystiolaeth ar gyfer eu technoleg iechyd.

Roedd Prosiect CHEETAH ar gam datblygu cynharach, a chafodd gyngor ar y manteision allweddol sydd angen eu cynnwys yn y dystiolaeth i ddangos y gwerth y gallai ei gynnig i’r GIG.

Dywedodd Helen Iliff, Arweinydd y Prosiect CHEETAH: “Roedd proses dadansoddi’r Offeryn META yn ein gorfodi i arfarnu’n feirniadol pob agwedd ar CHEETAH.  Fe’n helpodd i nodi meysydd risg uwch o ran y dechnoleg iechyd rydym yn bwriadu ei chyflwyno, a’r meysydd hynny ble roedd angen i ni dreulio ychydig mwy o amser yn eu deall/cael rhagor o fanylion.”

 

Pa wahaniaeth wnaeth hyn ei wneud?

Roedd y trafodaethau ynghylch y seiliau tystiolaeth presennol yn tynnu sylw at feysydd i’w datblygu yn y dyfodol. Roedd Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan yn fwy gwybodus, ac yn gallu mynd i’r afael â’r meysydd i’w datblygu yn eu gweithgareddau ymchwil yn y dyfodol.

Dywedodd Helen Iliff, Arweinydd Prosiect CHEETAH: “Fel clinigydd, fe’m helpodd i ddeall y broses a’r gofynion o gyflwyno technoleg iechyd newydd. I werthfawrogi nid yn unig y goblygiadau clinigol ond hefyd, y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â thechnolegau o’r fath. Roedd y broses yn hynod werthfawr i fi a fy mhartner technoleg.”