Astudiaeth achos: Peilotio’r offeryn META gydag Rescape Innovation
Beth wnaethom ni?
Fel rhan o gynllun peilot Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol Technoleg Iechyd Cymru, cynhaliwyd ymgynghoriad gyda chwmni a ofynnodd am asesiad, sef Rescape Innovation.
Nod Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW oedd cynyddu ymwybyddiaeth o broses a gofynion asesu technoleg iechyd (HTA) ar gyfer Rescape Innovation. Canolbwyntiodd yn benodol ar y dystiolaeth glinigol ac economeg iechyd sydd ei hangen i ddangos bod technoleg newydd yn cynnig gwerth i gleifion a systemau gofal iechyd.
Defnyddiodd y gwasanaeth offeryn Asesu Technegol Cynnar Medtech (META), a ddatblygwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae’r offeryn META yn blatfform ar-lein i helpu datblygwyr technoleg iechyd i wneud y gorau o’u cynlluniau. Darparodd fframwaith strwythuredig i helpu i nodi bylchau posibl yn sylfaen dystiolaeth neu yng nghynlluniau casglu tystiolaeth cynnyrch.
Gyda phwy?
Cynigiwyd cyngor gwyddonol i Rescape Innovation, cwmni yng Nghaerdydd. Maen nhw’n datblygu DR. VR, sef ateb seiliedig ar therapi tynnu sylw realiti rhithwir, i gefnogi lleddfu poen, pryder a straen. Ei nod ydy gwella profiad cleifion, a gellir ei ddefnyddio cyn, yn ystod, neu ar ôl triniaeth.
Beth oedd yr ymatebion?
Roedd Rescape Innovation yn teimlo fod y broses yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol iawn. Yn ogystal â’r meysydd penodol a godwyd drwy’r asesiad offeryn META strwythuredig, roedd Rescape Innovation yn ei ystyried yn ddefnyddiol trafod gofynion tystiolaeth a phrosesau HTA yn fwy cyffredinol.
Beth wnaeth pobl ddysgu?
Ymhlith y meysydd allweddol a drafodwyd oedd yr angen i farcio CE ar gyfer cynnyrch oedd â chais meddygol, a’r gofyniad i ddangos goblygiadau economaidd iechyd yn sgîl defnyddio’r system DR VR.
Dywedodd Matt Wordley, Prif Swyddog Gweithredol Rescape Innovation: “Roedd tîm HTW sy’n rhedeg astudiaeth META, yn gallu rhoi barn graff a diduedd i ni ar fylchau a strategaethau posibl, a helpu i nodi’r hyn oedd ei angen i hyrwyddo’r cynnyrch, ac i wneud llawer mwy ohonynt.”
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
Tynnodd y trafodaethau sylw ynghylch sylfaen dystiolaeth bresennol meysydd sydd wedi’u hamlygu i’w datblygu yn y dyfodol. Mae Rescape Innovation bellach yn fwy gwybodus, ac mewn gwell sefyllfa i fynd i’r afael â hyn yn eu hymchwil.
Meddai Matt Wordley: “Drwy gymryd rhan yn astudiaeth META, crëwyd y cyfle i gymryd cam yn ôl o ddatblygu’n cynnyrch, a gweld a allem fynegi’r hyn roeddem wedi’i greu, y broses roeddem wedi’i chynnal, a’r dystiolaeth roeddem wedi’i chasglu hyd yma.”