Astudiaeth Achos: profi cronfa ddata INAHTA HTA
Beth wnaethom ni?
Yn 2018, aeth INAHTA (International Network of Agencies for Health Technology Assessment) ati i gynhyrchu a datblygu Cronfa Ddata HTA CRD (Centre for Review and Dissemination). Fe wnaethom ymateb i alwad gan INAHTA, ac ymuno â grŵp cynghori arbenigol i roi cyngor lefel uchel ar nodweddion fersiwn newydd o’r gronfa ddata.
Fe wnaethom brofi’r gronfa ddata ar dri achlysur i werthuso agweddau amrywiol o’i swyddogaeth, yn cynnwys:
- Arddangos, llywio ac allforio canlyniadau
- Creu a golygu cofnodion
- Cymharu â rhyngwyneb chwilio CRD â hen gronfa ddata HTA
- Chwilio am ganlyniadau
- Rhesymeg Boole o fewn y swyddogaeth chwilio
Ar ôl proses werthuso drwyadl, fe wnaethom roi adborth manwl ac awgrymu newidiadau i’r swyddogaeth chwilio, a chyfrannu hefyd at ddau gyfarfod o Bwyllgor Llywio Cronfa Ddata INAHTA HTA.
Gyda phwy?
Arweiniwyd mewnbwn Technoleg Iechyd Cymru gan ein gwyddonydd gwybodaeth, Jenni Washington. Roedd dull byd-eang o ran profi’r gronfa ddata, ac roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Scottish Health Technologies Group (SHTG), Belgian Health Care Knowledge Centre (KCE), German Federal Joint Committee – Gemeinsamer Bundesausschuss (G-Ba), a Center for Drug Evaluation (CDE), Taiwan.
Beth oedd yr ymatebion?
Ar ôl cyflwyno ein hadborth, gofynnwyd i Jenni fynychu Pwyllgor Llywio Cronfa Ddata INAHTA HTA ac yna, fe’i gwahoddwyd i ddod yn aelod ohono. Rydym yn aelodau hefyd, o Grŵp Cynghori Technegol Cronfa Ddata HTA.
Meddai Tara Schuller, Rheolwr Gweithredol INAHTA: “Mae HTW, fel un o aelodau mwyaf newydd INAHTA, wedi bod yn gyfrannwr hanfodol i’r gwaith o ddatblygu’r gronfa ddata HTA newydd. Cafodd y gronfa ddata wreiddiol ei chynhyrchu a’i chartrefu yn y Center for Reviews and Dissemination in the UK a chymerodd INAHTA drosodd yr adnodd rhyngwladol pwysig hwn, ond bu’n rhaid i ni ei ailadeiladu o’r dechrau. Sialens frawychus os bu un erioed! Creodd INAHTA grŵp adolygu technegol a oedd yn cynnwys arbenigwyr ar gasglu gwybodaeth o blith ein haelod-asiantaethau, ac maen nhw wedi bod yn gwbl sylfaenol i’n llwyddiant o ran cwblhau’r prosiect uchelgeisiol hwn. Darparodd y grŵp adolygu technegol gyngor ar ddatblygu’r gronfa ddata, a’i phrofi’n drylwyr dros y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y nodweddion chwilio uwch a’r holl ddarnau proses yn gweithio’n dda ar y platfform. Roedd cyfraniadau Jenni o’r safon uchaf, ac yn graff iawn, yn gywir, ac ar amser! Ni allaf bwysleisio faint mae ei chyfraniadau arbenigol – ynghyd ag adolygwyr technegol eraill – wedi bod yn allweddol yn y gwaith hwn. Diolch Jenni, Diolch, HTW!”
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
Helpodd ein mewnbwn i ddatblygu a phrofi’r gronfa ddata i wella ymarferoldeb chwilio’r gronfa ddata. Mae wedi cael ei lansio, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan ymchwilwyr iechyd ar draws y byd. Mae’r gronfa ddata yn adnodd gwerthfawr ar gyfer lleoli deunydd darllen a gwybodaeth lyfryddol sydd ddim ar gael yn rhwydd o unrhyw ffynhonnell unigol arall. Mae’r gronfa ddata yn cynnig rhestr gynhwysfawr o bron i 17,000 HTA parhaus, ac sydd wedi cael eu cyhoeddi.
Mae’r cydweithredu rhyngwladol hwn wedi sicrhau bod HTAs ar gael yn fwy rhwydd i aelodau INAHTA, sy’n gallu cael mynediad at yr wybodaeth ddiweddaraf. Mae HTAs yn cael eu defnyddio i gefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, er mwyn hyrwyddo system iechyd gyfiawn, effeithlon o ansawdd uchel.