Awgrymu pwnc
Ydych chi’n gwybod am dechnoleg neu fodel o ofal a chymorth ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol y gallai Technoleg Iechyd Cymru eu harfarnu?
Rydym yn arfarnu ystod eang o dechnolegau a modelau o ofal a chymorth. Ar gyfer iechyd, gallai hyn gynnwys dyfeisiau meddygol, diagnosteg, gweithdrefnau a therapïau seicolegol. Ar gyfer gofal cymdeithasol, gallai hyn gynnwys offer a dylunio amgylcheddol, neu fodelau gwahanol ar gyfer cefnogi teuluoedd, plant, oedolion a’r gweithlu. Nid yw Technoleg Iechyd Cymru yn arfarnu meddyginiaethau.
Gall unrhyw un awgrymu pwnc maen nhw’n credu y gallem ei arfarnu, ac rydym yn awyddus i dderbyn awgrymiadau gan bobl sydd ag ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys y cyhoedd. Mae awgrymiadau blaenorol wedi dod gan bobl:
- sydd yn gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
- sydd yn cael mynediad at wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol
- sydd yn darparu gofal i aelod o’r teulu neu ffrind
- sydd yn datblygu neu’n ymchwilio i dechnolegau a ffyrdd o weithio ar gyfer iechyd neu ofal cymdeithasol
- sydd yn cefnogi pobl drwy’r trydydd sector a sefydliadau gwirfoddol
I awgrymu pwnc, llenwch ein ffurflen ar-lein isod. Hon yw cam cyntaf ein proses arfarnu, a bydd yr wybodaeth sydd yn cael ei darparu gennych yn helpu i benderfynu a yw’r pwnc o fewn ein cylch gwaith ac yn briodol i ni ei asesu.
Os byddai’n ddefnyddiol trafod eich pwnc neu gael cymorth i lenwi’r ffurflen, cysylltwch â ni drwy e-bostio.