Newyddion

09 Mai, 2024

Cadeirydd HTW yn derbyn Cymrodoriaeth fawreddog i gydnabod cyfraniadau i feddygaeth a dysgu.

Mae Cadeirydd HTW, yr Athro Peter Groves, wedi derbyn clod mawreddog i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i feddygaeth a dysgu yng Nghymru.

 

Mae’r Athro Groves, Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

 

Mae’r Gymdeithas yn dyfarnu Cymrodoriaethau i bobl sy’n cynrychioli rhagoriaeth yn y gwyddorau, y dyniaethau, y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol, a meysydd eraill, sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i ddysgu ac sydd â chysylltiad amlwg â Chymru.

 

Dyfernir cymrodoriaethau yn dilyn proses etholiadol, a dim ond y rhai sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd yng Nghymru sydd yn cael eu dewis.

 

Yn ogystal â bod yn Gadeirydd HTW, mae’r Athro Groves yn Gadeirydd Panel Apêl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) hefyd, ac yn gyn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), a Phwyllgor Cynghori Technolegau Meddygol NICE.

 

Mae wedi dangos ymrwymiad cryf i addysgu ac ymchwil drwy gydol ei yrfa, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn rheoleiddio ac asesu technolegau iechyd ar gyfer dyfeisiau meddygol arloesol.

 

Yn dilyn y newyddion ei fod wedi derbyn y Gymrodoriaeth, dywedodd yr Athro Groves: “Mae’n fraint wirioneddol cael Cymrodoriaeth gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru – sefydliad o fri sy’n hyrwyddo ymchwil ac sy’n ysbrydoli dysgu ar draws Cymru.

 

“Rwy’n frwdfrydig dros rannu fy ngwybodaeth fy hun a chefnogi dysgu pobl eraill – yn enwedig ym meysydd meddygaeth gardiofasgwlaidd a thechnolegau iechyd.

 

“Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy llais i helpu i hyrwyddo gwaith y Gymdeithas a phwysigrwydd ymchwil wyddonol yng Nghymru.”

 

Roedd yr Athro Groves ymhlith 43 o Gymrodyr newydd a gafodd eu hethol  eleni gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, gan gynnwys dau gydweithiwr o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (VUNHST) – yr Athro Mark Taubert, Cyfarwyddwr Clinigol Meddygaeth Liniarol a Dr Seema Arif, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth hefyd i’r Athro Andrew Westwell, Aelod Annibynnol o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.