Newyddion

28 Mawrth, 2024

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd

Mae canllaw wedi cael ei gyhoeddi sy’n cefnogi mabwysiadu rhaglenni dwys i gadw teuluoedd gyda’i gilydd (IFPP) yng Nghymru.

Mae Technoleg Iechyd Cymru, a gyhoeddodd y canllaw, yn arfarnu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol anfeddygol, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.

Cynhaliodd arfarniad o IFPP,  sy’n rhaglenni ymyrraeth dwys tymor byr y gellir eu rhoi ar waith yn ystod cyfnod o argyfwng pan fydd plant mewn perygl o fynd i mewn i’r system gofal.

Nod IFPP yw darparu cefnogaeth uniongyrchol i deulu drwy wella sgiliau a gwydnwch. Gall hyn helpu i ddatrys argyfyngau a chaniatáu i blant aros o fewn eu hamgylchedd teuluol yn hytrach na mynd i ofal.

Mae canllaw HTW wedi dod i’r casgliad bod y dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu IFPP ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng. Fe wnaeth ddarganfod bod defnyddio IFPP yn lleihau’r risg o blant yn gorfod mynd i leoliadau i ffwrdd o’u cartref.

Mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch effaith IFPP ar les emosiynol plant, ond nid yw’n ymddangos fel bod unrhyw dystiolaeth o niwed.

Fe wnaeth y dadansoddiad economaidd a gynhaliwyd fel rhan o’r arfarniad ddarganfod y gallai fod potensial ar gyfer arbed hyd at £12,171 fesul plentyn, drwy osgoi gorfod anfon plant i leoliadau i ffwrdd o’u cartref.

Gallwch ddarllen canllaw HTW yn llawn yma