Newyddion

21 Gorffennaf, 2022

< BACK

Canllawiau wedi’u cyhoeddi – Biopsi laryngaidd i bobl mewn lleoliad cleifion allanol

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar fiopsi laryngaidd ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt ganser y pen a’r gwddf mewn lleoliadau cleifion allanol

Mae biopsi laryngaidd yn defnyddio offeryn bach i dynnu sampl o gelloedd o’r laryncs, fel y gellir ei archwilio am arwyddion o ganser.

Gellir ei ddefnyddio i gymryd sampl o’r cordiau lleisiol neu rannau cyfagos o’r gwddf.

Mae’r biopsi’n cael ei wneud o dan anesthetig lleol.  

I ddarllen y canllawiau llawn a gyhoeddwyd gan Technoleg Iechyd Cymru cliciwch yma: https://healthtechnology.wales/reports-guidance/biopsi-laryngaidd-i-bobl-mewn-lleoliad-cleifion-allanol/?lang=cy