Cannllawiau a gyhoeddwyd ar therapi tynnu sylw rhithwironedd
Realiti Rhithwir ydy efelychiad sydd yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur, o amgylchedd y gellir ei arddangos trwy set ben neu sbectol. Mae’r dechnoleg eisoes wedi cael ei defnyddio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol i drin ffobias ac anhwylderau gorbryder. Edrychodd HTW am dystiolaeth y gellir ei defnyddio i reoli poen yn ystod triniaethau meddygol. Mae triniaethau meddygol a allai fod angen rheoli poen yn cynnwys gofalu am glwyfau, therapi corfforol ar gyfer llosgiadau, triniaeth ddeintyddol, cemotherapi a rhoi genedigaeth. Er bod y dystiolaeth yn cefnogi’n rhannol y broses o ddefnyddio ymyriadau realiti rhithwir ar gyfer rheoli poen a phryder yn ystod triniaethau meddygol, mae canllaw HTW yn nodi nad oes digon o dystiolaeth i gefnogi defnyddio realiti rhithwir yn rheolaidd yng Nghymru.
|