Astudiaeth achos: Esiamplau Technoleg Iechyd Comisiwn Bevan
Beth wnaethom ni?
Gwnaethom gymhwyso dulliau arfarnu technoleg iechyd ar gyfer rhaglen Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan (HTE), gan gynhyrchu adroddiadau archwilio technoleg cryno i asesu’r dystiolaeth sy’n tanategu cymwysiadau 2018 a 2019.
Gyda phwy?
Gwnaethom weithio gyda Chomisiwn Bevan, melin drafod flaenllaw yng Nghymru a chorff arloesi cenedlaethol, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r GIG a rhanddeiliaid yn y diwydiant i gryfhau arloesedd o fewn y GIG yng Nghymru. Mae prosiectau HTE Bevan yn hwyluso cydweithrediadau rhwng GIG Cymru a rhanddeiliaid yn y diwydiant.
Beth oedd yr adwaith?
“Ychwanegwyd llawer iawn o werth, tystiolaeth a manylrwydd i’r broses cymhwyso ac asesu Esiampl Technoleg Iechyd drwy fod HTW wedi ymuno â’r panel.”
– Tom James, Pennaeth Arloesi ac Ymgysylltu â Diwydiant, Llywodraeth Cymru
“Gwnaeth eich profiad, eich arbenigedd a’ch parodrwydd ar gyfer y dasg dan sylw gyfraniad enfawr i lwyddiant cyffredinol proses ddewis HTE eleni. Teimlais fod mewnbwn eich tîm yn amhrisiadwy a rhoddodd y manylrwydd ychwanegol oedd ei angen i gefnogi’r penderfyniadau terfynol yn y cyfarfod panel Dragon’s Den.”
– Chris Martin, Dirprwy Gadeirydd Comisiwn Bevan, Prifysgol Abertawe
Beth wnaethom ei ddysgu?
Mae cymhwyso dulliau HTA ochr yn ochr ag ymgysylltu cynnar gydag arloeswyr yn arwain at ystyriaeth fwy beirniadol o werth cynnig eu technoleg. Mae hyn yn annog ffocws ar ddangos gwelliannau ac yn cefnogi gwneud penderfyniadau wedi’u llywio gan dystiolaeth wrth ddyrannu cronfeydd arloesi prin.
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
The Bevan Commission has invited us to routinely build health technology assessment and evidence considerations into their future innovation calls and competitions. We also provide ongoing advice to the HTEs, encouraging prospective evidence collection to build a case for the adoption of their innovations.
Mae Comisiwn Bevan wedi ein gwahodd ni i gynnwys asesu technoleg iechyd ac ystyriaethau tystiolaeth i’w alwadau a chystadleuaeth am arloesedd yn y dyfodol. Rydym hefyd yn darparu cyngor parhaus i’r HTE, gan annog casglu tystiolaeth bosibl i adeiladu achos ar gyfer mabwysiadu eu dyfeisiau arloesol.
Mae ymgysylltu’n gynnar gyda rhanddeiliaid arloesi allweddol yn ein galluogi i nodi a chynnig cefnogaeth ar gyfer y technolegau newydd mwyaf addawol mor gyflym â phosibl.
Mae’r gwaith hwn wedi ein galluogi i gyfrannu at bolisïau iechyd, cyfoeth ac arloesi uchelgeisiol Llywodraeth Cymru a chefnogi’r sector gwyddor bywyd cryf yng Nghymru. Mae hefyd yn cyfrannu at ein hamcan i arfarnu technolegau drwy gydol eu cylch oes, o arloesi i ddarfodiad.