Astudiaeth Achos

11 Mawrth, 2020

Astudiaeth achos: Cysoni HTA

A graphic with icons to represent a case study

Beth wnaethom ni?

Gwnaethom chwarae rôl allweddol mewn cydweithredu rhyngwladol i ystyried sut i asesu technolegau amharol.

Yn 2018 nododd aelodau’r Rhwydwaith Rhyngwladol Asiantaethau ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd (INAHTA) ‘bynciau pwysig’ oedd angen datganiad sefyllfa arnynt o safbwynt asiantaethau cyhoeddus.

Un maes ffocws oedd technoleg amharol: technolegau arloesol a fydd yn newid yn sylweddol sut y darperir gofal. Mewn ymateb, gwnaethom hwyluso trafodaethau ar dechnolegau amharol mewn digwyddiad World Café yng Nghyngres 2018 INAHTA.

Gyda phwy?

Arweiniodd Cyngres INAHTA grŵp gorchwyl rhyngwladol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’n tîm ni ac aelodau o’r Almaen, Yr Ariannin, Canada, Yr Eidal, Maleisia, De Affrica, a Taiwan. Nodau’r grŵp gorchwyl yw:

  • Datblygu cyd-ddealltwriaeth o beth yw ‘technoleg iechyd amharol’ a sut mae’n wahanol i ddatblygiadau technolegol cynyddrannol.
  • Datblygu argymhellion ar gyfer sut y dylai asiantaethau HTA ddelio â thechnolegau amharol.
  • Penderfynu a oes unrhyw ystyriaethau arbennig ar gyfer technolegau amharol wrth gynnal HTA.

Cynlluniodd, mireiniodd a chynhaliodd ein harbenigwyr gwybodaeth ac ymchwilwyr chwiliadau i ganfod llenyddiaeth berthnasol ar y pwnc.

Beth oedd yr adwaith?

Denodd yr ymarferiad casglu data chwim a gynhaliwyd yng Nghyngres INAHTA lawer o ddiddordeb a lefel uchel o ymgysylltu. Roedd y grŵp gorchwyl yn ddiolchgar am ein cyfraniadau ymarferol, yn cynnwys chwilio llenyddiaeth i gefnogi datblygiad y datganiad sefyllfa.

Beth wnaethom ei ddysgu?

Rhoddodd y trafodaethau a arweiniwyd gennym fewnwelediad i gyd-wybodaeth cyd unigolion o asiantaethau HTA rhyngwladol. Gwnaethant amlygu diffyg eglurder am y meini prawf ar gyfer nodi technolegau amharol, a’r potensial ar gyfer ansicrwydd methodolegol. Mae ein hymchwilwyr yn gallu adnabod cyfleoedd i arfarnu pynciau o’r fath, a chael gwell ymwybyddiaeth o heriau o ran methodoleg.

Pa wahaniaeth wnaeth hyn?

Rhoddodd gwirfoddoli i gymryd rôl flaenllaw y cyfle i ni sicrhau enw da cadarnhaol yn rhyngwladol, ac i roi Cymru yn gadarn ar y map HTA. Helpodd ein tîm i rannu baich y gwaith hwn a chyflymu datblygiad datganiad sefyllfa ar dechnolegau amharol.

Mae natur gydweithredol y prosiect hwn yn osgoi dyblygu ymdrechion ymhlith asiantaethau HTA a bydd yn helpu i hwyluso dull byd-eang cyson ar gyfer arfarnu technolegau amharol.

Mae’r grŵp gorchwyl yn parhau i weithredu ac rydym yn paratoi papur i’w gyhoeddi yn seiliedig ar y cydweithredu rhyngwladol hwn.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.