Astudiaeth achos: Cywasgu mecanyddol y frest
Beth wnaethom ni?
Gwnaethom arfarnu dyfeisiau cywasgu mecanyddol y frest, i’w defnyddio gan y gwasanaeth ambiwlans ar oedolion sy’n profi ataliad y galon heb drawma y tu allan i’r ysbyty. Gwnaethom gyhoeddi Canllaw ym mis Chwefror 2018.
Gyda phwy?
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wnaeth gynnig y pwnc a darparodd wneuthurwyr y ddyfais wybodaeth am y dyfeisiau.
Gwnaethom ymgynghori ag arweinwyr clinigol ac arbenigwyr methodolegol wrth adolygu’r dystiolaeth. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â Rhwydwaith Cardiaidd Cymru er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid eangach yn cael eu hysbysu.
Beth oedd yr adwaith?
“Yn fy marn onest i, mae gwasanaethau iechyd angen arfarniadau technoleg iechyd o ansawdd uchel o’r fath yn fwy nag erioed er mwyn datblygu a darparu gofal clinigol a chost effeithiol.”
– Darparwr gwasanaeth
Beth wnaethom ei ddysgu?
Canfu’r arolwg astudiaethau o ansawdd uchel ynglŷn ag effeithiolrwydd y dechnoleg a’r costau sy’n gysylltiedig â hi.
Yn seiliedig ar y dystiolaeth, daethom i’r casgliad nad oedd dadebru cardio-anadlol gan ddefnyddio dyfeisiau cywasgu mecanyddol y frest yn sylweddol well mewn atal marwolaethau na dadebru â llaw. Dangosodd ein dadansoddiad economaidd nad oedd gweithredu’r dyfeisiau fel mater o drefn ar draws y gwasanaeth ambiwlans yn gost effeithiol.
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
Defnyddiodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ein Canllaw i lywio ei benderfyniad o ran comisiynu.
Mae’r Grŵp Gweithredu Ataliad y Galon y tu allan i’r Ysbyty yn cymryd camau i wella casglu data archwilio.
Gwnaethom wella effeithlonrwydd mewn defnydd o adnoddau prin y GIG drwy beidio ag annog buddsoddi mewn technoleg nad oedd wedi’i chefnogi gan dystiolaeth oedd ar gael. Drwy osgoi defnydd y dyfeisiau hyn fel mater o drefn, amcangyfrifir y gallai GIG Cymru arbed £220,823. Mae’r arbediad cost hwn yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai 50% yn manteisio ar y dechnoleg heb Ganllaw HTW.