Astudiaeth Achos

04 Mawrth, 2020

Astudiaeth achos: Telefonitro rheolydd calon ar gyfer methiant y galon

A graphic with icons to represent a case study

Beth wnaethom ni?

Gofynnodd Rhwydwaith Cardiaidd Cymru am arfarniad ar delefonitro (monitro o bell) rheolydd calon ar gyfer rheoli methiant y galon.

Amlygodd ein chwiliadau archwiliadol o lenyddiaeth ddiffyg tystiolaeth yn y maes hwn, ond roedd hi’n amlwg bod materion trefniadol hynod berthnasol, yn arbennig yn ymwneud â sut y dylid defnyddio allbynnau telefonitro yn glinigol. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, cynhaliom weithdy i optimeiddio telefonitro rheolydd calon ledled Cymru, lle gallai rhanddeiliaid rannu a dysgu gan enghreifftiau o arfer da.

Gyda phwy?

Mynychodd dros 40 o bobl y gweithdy. Roedd rhanddeiliaid yn cynnwys:

  • uwch aelodau staff y GIG
  • cardiolegyddion
  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill
  • grwpiau cleifion
  • academia
  • diwydiant
  • arbenigwyr sydd â diddordeb mewn gwerthuso tystiolaeth i hysbysu penderfyniadau yn GIG Cymru

“Rwy’n gobeithio y bydd HTW yn trefnu rhagor o ddigwyddiadau fel hyn.”
Mynychwr gweithdy

Beth wnaethom ei ddysgu?

Disgrifiodd y timau clinigol dri phrif ddull a ddefnyddir ar hyn o bryd:

  • Dim telefonitro rheolyddion calon
  • Telefonitro i wirio bod y rheolyddion calon yn gweithio’n gywir (e.e. bywyd batri)
  • Telefonitro gydag adolygiad data i hysbysu penderfyniadau clinigol (yn ychwanegol at wiriadau o ran gweithio)

Roedd y rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi cael cyfle penodol i ddod ynghyd a rhannu eu profiadau. Nododd yr holl ffurflenni adborth bod cyfranogwyr yn fodlon neu’n fodlon iawn gyda’r profiad cyffredinol, a gyda threfniant y digwyddiad.

Pa wahaniaeth wnaeth hyn?

Cytunodd y mynychwyr bod angen dull aml-randdeiliaid Cymru gyfan er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o reolyddion calon wrth reoli gofal pobl sydd â methiant y galon.

Roedd rhai o’r prif gasgliadau’r gweithdy yn cynnwys:

  • Gellid darparu cefnogaeth ganolog i fynd i’r afael â materion technegol a chydnawsedd sy’n deillio gyda seilweithiau telefonitro
  • Mae angen i wneuthurwyr rannu tystiolaeth am gywirdeb yr algorithmau telereoli
  • Mae angen i randdeiliaid ystyried a chytuno ar fanylion gweithredu ymarferol

Mae disgwyl i ddarpariaeth gofal mwy cyson ledled Cymru leihau anghydraddoldeb daearyddol. Gallai defnydd effeithiol ar delefonitro fod yn arbennig o werthfawr mewn ardaloedd gwledig lle mae’r pellteroedd rhwng darparwyr gofal iechyd yn amrywio.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.