Cefnogaeth traws-sector i’n gweithdai iechyd cyntaf
Cynhaliwyd ein gweithdai iechyd cyntaf i adeiladu capasiti ar draws y sectorau iechyd, gofal a diwydiant.
Croesawyd dros 20 o bobl i’r gweithdai hyn a gynhaliwyd ar y cyd â Chanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru, i ddysgu am asesu technoleg iechyd ac economeg iechyd.
Roedd cyfranogwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn amrywio o arweinwyr arloesi mewn byrddau iechyd i fyfyrwyr prifysgol sy’n astudio ar gyfer eu graddau doethurol ôl-raddedig.
Roedd cyfranogwyr yn dod o gefndiroedd traws-sector amrywiol hefyd – yn cynnwys: GIG Cymru, academia, cynrychiolwyr cleifion a diwydiant.
Cyflwynodd Canolfan werthuso Cedar a Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe y gweithdai ar ein rhan. Dysgodd y ddau weithdy egwyddorion sylfaenol y pynciau, gan alluogi cymhwyso’r rhain i senarios bywyd go iawn.
Canolbwyntiodd y gweithdai ar gysyniadau a dulliau allweddol, gan eu cymhwyso at bynciau bywyd go iawn y mae Technoleg Iechyd Cymru wedi’u harfarnu o’r blaen. Siaradwyd hefyd ynghylch y prosesau awgrymu pynciau, a chafodd cyfranogwyr eu hannog i ystyried pynciau y gallant eu cyflwyno eu hunain.
Meddai Elise Johanson, myfyrwraig meddygaeth sydd yn ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd: “Gallaf ddefnyddio’r sgiliau a ddysgais yn y gweithdy hwn i arfarnu’r ymchwil yn feirniadol, ac i benderfynu drosof fy hun os wyf yn meddwl bod y dystiolaeth yn ddigon cryf i gefnogi penderfyniad clinigol yn ymarferol, yn ogystal â phenderfyniadau am dechnolegau iechyd yn y dyfodol.”
Darllenwch adroddiad llawn Elise o’r gweithdai yma.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu gweithdai yn y dyfodol? Mae llefydd ar gael o hyd ar ddydd Mercher 25 Medi 2019 a dydd Mercher 11 Rhagfyr 2019.
CLICIWCH YMA I ARCHEBU EICH LLE
CLICIWCH YMA I LAWRLWYTHO’R LLYFRYN LLAWN