Newyddion

07 Mawrth, 2023

Cefnogi datblygu Canllaw Technoleg Iechyd Cymru ar y Broses Arfarnu

Rydym wedi cynhyrchu Canllaw drafft ar y Broses Arfarnu, sy’n ceisio esbonio ein proses o arfarnu technoleg iechyd yn glir i randdeiliaid allanol.

Ein nod yw cynyddu dealltwriaeth o broses arfarnu Technoleg Iechyd Cymru, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith neu wrth ystyried cyflwyno technoleg iechyd neu ofal anfeddygol i’w arfarnu.

Mae’r ddogfen yn esbonio’r broses rydyn ni’n ei defnyddio ar gyfer arfarniadau, gan gynnwys:

  • Cyflwyno a dewis pwnc cychwynnol
  • Cynhyrchu Adroddiad Archwilio Pwnc (TER)
  • Dewis pynciau ar gyfer gwaith pellach, ar ffurf Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR)
  • Cynhyrchu Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR)
  • Cynhyrchu canllaw

Mae’n disgrifio rhywfaint o’r hyn sy’n digwydd ar ôl i arfarniad gael ei gwblhau hefyd: sut rydym yn monitro effaith ac yn defnyddio ein canllaw, a’r amgylchiadau ble y gellir newid neu ddiweddaru canllaw.

Dogfen ddrafft yw’r canllaw, ac rydym yn ceisio adborth ynghylch p’un a yw’n rhoi disgrifiad clir o’n proses ac os oes gwybodaeth ychwanegol y dylem ei chynnwys.

Gellir darllen y canllaw drafft yma

Gellir darllen yr eirfa ddrafft yma

Buasem yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr – gallwch ei gyflwyno drwy gwblhau ein harolwg ymgynghori gan ddefnyddio’r ddolen hon:

https://healthtechnologywales.onlinesurveys.ac.uk/appraisal-process-guide-consultation-copy