Chwarterol HTW: Medi 2020
Ail rifyn HTW Chwarterol, ein e-gylchlythyr newydd sy’n rhoi diweddariadau rheolaidd am ein gweithgareddau, ar gael nawr.
Y bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi’r e-gylchlythyr hwn ym mis Mehefin 2020 ond gohiriwyd hynny wrth i ni atal dros dro ein prosesau Canllawiau er mwyn canolbwyntio ar sut y gallem gefnogi gwneuthurwyr penderfyniadau yn ystod pandemig y clefyd coronafeirws (COVID-19).
Fel ag y gwelwch yn yr e-gylchlythyr hwn, erbyn hyn rydym wedi ail-gydio yn ein prosesau a chyhoeddi dau Ganllaw newydd. Rydym hefyd wedi parhau i ymgysylltu â sefydliadau partner a chymheiriaid yn ein rôl i wella gofal yng Nghymru.