Coronafeirws (COVID-19)

 

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi’r ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Gan fod y sefyllfa COVID-19 yn newid yn gyflym, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd am ein ffyrdd o weithio a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

 

Adolygiadau tystiolaeth ac ymchwil

 

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn Bartner Cydweithredol i Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, gan ddarparu arbenigedd ymchwil a mewnbwn i’r ganolfan bwrpasol ar gyfer ymateb i bandemig COVID-19.

Ariennir Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chaiff ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd. Ei phrif ddiben yw adolygu a syntheseiddio tystiolaeth ymchwil ledled y DU a rhyngwladol yn gyflym i gefnogi gwneud penderfyniadau gan randdeiliaid sy’n ymwneud â pholisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Gellir dod o hyd i adroddiadau o’r adolygiadau cyflym o dystiolaeth, ynghyd â rhagor o wybodaeth, ar y  Gwefan Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru.

Roedd HTW wedi cefnogi’r ymateb i’r pandemig yn flaenorol drwy gyfrannu at bwyllgorau a thasgluoedd Llywodraeth Cymru, gan gyd-ysgrifennu tri adolygiad cydweithredol pan-Ewropeaidd a darparu cyngor gwyddonol i ddiwydiant. Mae’r adroddiadau hyn i’w gweld isod.

Crynhoad tystiolaeth

 

Rydym wedi cynhyrchu crynodeb o ddolenni i wefannau sy’n coladu neu’n cyfosod tystiolaeth yn ymwneud â COVID-19. Canllaw cyflym yw hwn, ac felly nid yw’n hollgynhwysfawr, ond caiff ei ddiweddaru’n rheolaidd yn ôl yr angen.

Cliciwch yma i ddarllen y crynodeb tystiolaeth diweddaraf.

 

Cyngor gwyddonol

 

Gall datblygwyr technoleg a chwmnïau sy’n datblygu therapiwteg a diagnosteg sy’n gysylltiedig â COVID-19 dderbyn cyngor gwyddonol am ddim gan HTW.

Gall ein cyngor helpu gyda nifer o agweddau ar asesiadau technoleg iechyd, gan gynnwys; casglu tystiolaeth, cynhyrchu tystiolaeth, modelu economaidd ac ati.

Cysylltwch â HTW am ein gwaith COVID-19

Rydym yn gwahodd cwestiynau ymchwil sy’n gysylltiedig â COVID, adolygiadau tystiolaeth a cheisiadau am gymorth economeg. Gwahoddir sefydliadau sy’n ymwneud ag Asesu Technoleg Iechyd (HTA), canllawiau a modelu economaidd i ymgysylltu â ni i weld sut y gallwn gydweithio a rhannu adnoddau.

Cysylltwch â ni drwy’r ffurflen gysylltu.

 

Adborth

Cyngor ac adnoddau pellach:

Mwy o wybodaeth am y clefyd coronafeirws (COVID-19):