Coronafeirws (COVID-19)
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi’r ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Gan fod y sefyllfa COVID-19 yn newid yn gyflym, bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd am ein ffyrdd o weithio a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Adolygiadau tystiolaeth ac ymchwil
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn Bartner Cydweithredol i Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, sy’n darparu arbenigedd o ran ymchwil a mewnbwn i’r ganolfan bwrpasol ar gyfer pynciau sy’n ymwneud â COVID-19.
Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac mae’r ganolfan yn cael ei lletya gan Brifysgol Caerdydd. Gyda chylch gwaith ‘Cwestiynau Da yn cael eu hateb yn gyflym’ prif ddiben y ganolfan ydy adolygu a syntheseiddio tystiolaeth ymchwil ar draws y DU ac ar lefel rhyngwladol yn gyflym, i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau gan randdeiliaid sy’n ymwneud â pholisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd cydweithio â HTW a phartneriaid eraill sy’n cydweithio, yn helpu Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol, megis effeithiau hirdymor y pandemig.
Gallwch weld adroddiadau am yr adolygiadau tystiolaeth cyflym, ynghyd â gwybodaeth bellach, ar wefan Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru.
Mae HTW eisoes wedi ail-bwrpasu ei setiau sgiliau amrywiol i gefnogi’r ymateb i’r pandemig, gan ddadansoddi’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg a chynhyrchu nifer o gynnyrch newydd. Roedd hyn yn cynnwys mewnbwn i nifer o bwyllgorau a thasgluoedd Llywodraeth Cymru, ysgrifennu tri adolygiad ar y cyd â chydweithwyr yn Ewrop, a rhoi cyngor gwyddonol i ddiwydiannau. Gallwch ddod o hyd i’r adroddiadau hyn yma.
Rhestr dystiolaeth
Rydym wedi rhoi rhestr o wefannau at ei gilydd hefyd, sydd yn casglu neu’n cyfuno’r dystiolaeth sy’n gysylltiedig â COVID-19. Canllaw cyflym yn unig ydy hwn, ond bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, yn ôl yr angen.
Cliciwch yma i ddarlenwch y dystiolaeth ddiweddaraf.
Cyngor gwyddonol
Mae datblygwyr technoleg a chwmnïau sy’n datblygu therapiwteg a diagnosteg sy’n gysylltiedig â COVID-19, yn gallu cael cyngor gwyddonol am ddim gan HTW.
Gall ein cyngor helpu gyda nifer o agweddau sy’n ymwneud ag asesiadau technoleg iechyd, gan gynnwys; casglu tystiolaeth, cynhyrchu tystiolaeth, modelu economaidd ac ati.
Gweithio gyda HTW
I gysylltu â HTW am unrhyw beth sy’n gysylltiedig â’n gwaith COVID-19, anfonwch e-bost info@healthtechnology.wales neu llenwch y ffurflen hon.
Rydym yn gwahodd cwestiynau ymchwil sy’n berthnasol i COVID-19, adolygiadau o dystiolaeth, a cheisiadau am gymorth economeg. Gwahoddir sefydliadau sy’n ymwneud ag Asesiadau Technoleg Iechyd (HTA), canllawiau a modelu economaidd i ymgysylltu â ni i weld sut y gallwn gydweithio a rhannu adnoddau.
News
Maw 2021
Technoleg Iechyd Cymru i weithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru
Mae'n golygu y bydd y corff Asesu Technoleg Iechyd (HTA) cenedlaethol yn darparu arbenigedd ym maes ymchwil, a mewnbwn i'r ganolfan newydd sbon gwerth £3m ar gyfer pynciau COVID-19.
Ion 2021
Atal proses arfarnu HTW dros dro
Yn anffodus, rydym wedi penderfynu atal dros dro ein cyfarfodydd Panel Arfarnu a chyhoeddiad Canllaw cenedlaethol newydd hyd nes yr hysbysir yn wahanol.
Gorff 2020
SBRI yn cyhoeddi galwad agored newydd ar gyfer gwelliannau mewn cyllid
Mae’n bleser gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI gyhoeddi galwad agored newydd ar gyfer gwelliannau mewn cyllid, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru a Cardiff Capital Region.
Rhagor o wybodaeth am y clefyd coronafeirws (COVID-19):
• Llywodraeth y DU
• Llywodraeth Cymru
• Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyngor pellach ac adnoddau:
- Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn darparu cyngor therapiwtig er mwyn cynorthwyo gyda defnydd priodol o feddyginiaethau yn ystod pandemig COVID-19. Cliciwch yma.
- Mae’r Awdurdod Gwybodaeth ac Ansawdd Iechyd (HIQA) yn rhoi diweddariadau rheolaidd am ei ymateb i bandemig COVID-19. Cliciwch yma.
- Mae NICE yn cefnogi’r GIG a gofal cymdeithasol i ymateb yn gyflym i heriau pandemig COVID-19. Cliciwch yma.
- Mae Grŵp Technoleg Iechyd yr Alban (SHTG) yn tynnu sylw at adnoddau dibynadwy a allai gynorthwyo gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn ystod pandemig COVID-19. Cliciwch yma.