Newyddion

14 Tachwedd, 2018

Croeso i’r aelodau newydd o staff!

New HTW recruits

Mae llawer o wynebau newydd wedi bod o gwmpas y swyddfa yn ddiweddar, gan fod tîm HTW wedi parhau i dyfu. Rydym yn falch o gyhoeddi bod pedwar aelod newydd o staff wedi ymuno â’r tîm.

Bydd Tom Winfield yn arwain gwerthusiadau economeg iechyd HTW fel ein Uwch Economegydd Iechyd, ac mae’n arbenigo mewn modelu economaidd. Mae wedi bod yn gweithio am bedair blynedd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe yn gwerthuso treialon clinigol ac yn cynnal adolygiadau economaidd.

Karen MacPherson yw ein Prif Ymchwilydd newydd. Mae ganddi gyfoeth o brofiad ym maes ymchwil i wasanaethau iechyd ac mewn asesu technolegau iechyd, ac mae hi’n ymuno â ni ar secondiad chwe mis o Scottish Health Technologies Group (SHTG). Bydd Karen yn gweithio gyda Chanolfan Triniaeth Therapi Uwch Cymru a Chanolbarth Lloegr (MW-ATTC) i arwain ar waith HTW ar therapïau uwch.

Sarah McAllister a Helen Britton yw ein Rheolwyr Prosiectau newydd. Mae Sarah wedi ennill profiad o gyflwyno a rheoli prosesau llywodraethu yn ystod ei hamser fel Rheolwr Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG. Mae gan Helen brofiad helaeth o reoli prosiectau, a dealltwriaeth ragorol o’r GIG yng Nghymru ac o agenda polisi iechyd y Llywodraeth, yn dilyn ei hamser fel Rheolwr Gweithredol Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru.

Mwynhaodd y tîm bryd o fwyd blasus yn Sunflower & I, i groesawu ein haelodau newydd o’r tîm.

Ac nid dyna’r cyfan! Bydd dau aelod newydd o staff yn ymuno â HTW cyn diwedd y flwyddyn – byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am hyn cyn bo hir.

Os hoffech ragor o wybodaeth am aelodau o’n tîm, ewch i dudalen broffil Tîm HTW.