Newyddion

07 Medi, 2023

Cydweithredu rhyngwladol mewn perthynas ag Asesu Technoleg Iechyd yn ehangu

Image of a globe showing a world map Bydd cydweithredu rhyngwladol rhwng NICE a phum corff asesu technoleg iechyd o bob rhan o’r DU, Awstralia a Chanada yn croesawu dau gorff Asesu Technoleg Iechyd arall.

 

Yn sgil ychwanegu Institut national d’excellence en santé et en services sociaux (INESSS), Quebec a Pharmac, Seland Newydd yn y cydweithrediad, bydd mwy na 134 miliwn o bobl yn elwa o waith y grŵp.

 

Mae’r grŵp, a sefydlwyd yn 2021, bellach yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
  • Canadian Agency for Drugs and Technologies in Health (CADTH)
  • Australian Government Department of Health and Aged Care
  • Healthcare Improvement Scotland
  • Technoleg Iechyd Cymru
  • Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan
  • Institut national d’excellence en santé et en services sociaux (INESSS)
  • PHARMAC, Seland Newydd

Mae adeiladu partneriaethau buddiol gyda chyrff asesu technoleg iechyd rhyngwladol yn cefnogi uchelgais NICE i ddysgu’n barhaus o ddata a gweithredu, drwy ddefnyddio cyfleoedd a heriau a rennir ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd.  Rydym yn cydweithio ar amrywiaeth o bynciau a fydd o fudd i bobl sy’n cael mynediad at ofal iechyd ar draws y byd, ac a fydd yn caniatáu i NICE fod yn arweinydd byd-eang mewn Asesu Technoleg Iechyd.

Mae’r cydweithrediad wedi blaenoriaethu gwaith mewn 3 maes ar gyfer 2023/2024

 

  1. Rhannu gwaith

Ar gyfer technolegau fferyllol a thechnolegau iechyd eraill, bydd partneriaid yn archwilio dichonoldeb defnyddio gwerthusiad technegol sydd wedi cael ei gynhyrchu gan asiantaeth arall i wneud penderfyniad ynghylch Asesu Technoleg Iechyd.

Bydd gweithgareddau’r grŵp yn cynnwys:

  • Gweithredu prosesau ar gyfer rhannu rhaglenni gwaith
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid cenedlaethol a byd-eang ynghylch y cyfleoedd i rannu gwaith
  • Nodi meysydd methodolegol a gweithdrefnol i alluogi HTW i gefnogi rhannu gwaith yn y dyfodol.
  • Datblygu’r broses.

 

  1. Sganio’r Gorwel

Mae partneriaid yn deall pa mo bwysig yw hi i’n systemau Asesu Technoleg Iechyd a gofal iechyd fedru paratoi ar gyfer heriau’r dyfodol. Bydd y grŵp yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r gwaith o baratoi’n well ar gyfer y dyfodol.

Bydd gweithgareddau’r grŵp yn cynnwys:

  • Gweithredu prosesau i gefnogi ymwybyddiaeth o heriau’r dyfodol, gan gynnwys cyfnewid gwybodaeth rhwng asiantaethau ynghylch pynciau yn y dyfodol.
  • Ystyried gweithgarwch ar gyfer y dyfodol ar gyfer asiantaethau, ac archwilio sut y gallem weithio gyda’n gilydd fel grŵp i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn effeithlon.

 

Bydd y gwaith hwn yn paratoi’r ffordd hefyd ar gyfer creu prosiectau newydd ar y cyd ar flaenoriaethau cyffredin.

 

  1. Datblygu dulliau gwyddonol

Mae partneriaid yn cydweithio’n hyblyg ac yn gweithio gydag asiantaethau Asesu Technoleg Iechyd eraill sydd ddim yn rhan o’r grŵp. Mae gwaith cydweithredol yn galluogi ein hasiantaethau i wneud y defnydd gorau o’r sgiliau a’r arbenigedd sydd wedi’u cynnwys yn ein hasiantaethau.

Mae partneriaid yn gweithio i gefnogi ymwybyddiaeth ar draws y grŵp o’r prosiectau ynghylch gwyddoniaeth a dulliau y mae ein hasiantaethau yn cymryd rhan ynddynt, a’r gwaith cydweithredol sydd yn cael ei wneud ar y prosiectau hynny. Gall y grŵp ddewis creu prosiectau ar y cyd hefyd, sy’n deillio o rannu gwaith a sganio’r gorwel.

Gweithgareddau sy’n cynnwys aelodau’r grŵp:

  • Cyfnewid gwybodaeth yn rheolaidd am brosiectau ynghylch gwyddoniaeth a dulliau mae ein hasiantaethau yn cymryd rhan ynddynt (hefyd gyda ZIN, NOMA a TLV)
  • Gwaith prosiect ar y cyd sy’n parhau:
    • Canllaw ar ddefnyddio canlyniadau amgen ar gyfer modelu economeg iechyd (hefyd gyda ZIN, ICER, IETS Colombia, Rubix, Fforwm Polisi Byd-eang HTAi)
    • Defnyddio modelu clefydau cyfan mewn perthynas ag Asesu Technoleg Iechyd (hefyd gyda ZIN)
  • Gwaith cydweithredol yn datblygu fframwaith gwerthuso digidol

 

 

Bydd y partneriaid yn cynnal gweminar rhannu gwybodaeth ym mis hydref 2023. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu i ddysgu mwy am ein gwaith, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, lle byddwn yn hysbysebu’r digwyddiad. Fel arall, cofrestrwch i NICE news international, lle byddwn yn hysbysebu’r digwyddiad.