Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol HTW 2020
Mae’n bleser gennym eich hysbysu fod Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru (HTW) 2020 wedi’i gyhoeddi.
Mae’r adroddiad 40 tudalen yn archwilio’r meysydd rydym wedi bod yn gweithio arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn myfyrio ar ein rôl fel sefydliad asesu technoleg iechyd (HTA) cenedlaethol.
Yn yr adroddiad rydym yn rhoi sylw i’r ffyrdd rydym yn gwella ansawdd gofal yng Nghymru, megis:
- Ein hymateb i COVID-19
- Sut rydym yn cefnogi’r gwaith o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau
- Ein gwaith cydweithredu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.
Yn ystod 2020 gwnaethom gyhoeddi saith Canllaw HTW, gan ddod â chyfanswm nifer Canllawiau HTW i 17. Rydym yn amcangyfrif y byddai 137,338 o bobl wedi elwa gan weithrediad llawn ein Canllawiau hyd yma a’r potensial ar gyfer dros £5.7 miliwn mewn arbedion cost i GIG Cymru.
Mae nifer o astudiaethau achos a darnau nodwedd yn dangos effaith bywyd go iawn rydym yn ei gael ar iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r gwahaniaeth y mae gwneud penderfyniadau wedi’u llywio gan dystiolaeth yn ei gael mewn sicrhau gwasanaethau gofal diogel ac o ansawdd uchel yng Nghymru.
Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol HTW 2020.