Cyhoeddi bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’
Am y tro cyntaf rydym wedi cyhoeddi’r bwletin ‘Cyngor ar Dechnolegau Iechyd’ i gefnogi gwneud penderfyniadau ar dechnolegau iechyd yn GIG Cymru.
Mae’r bwletin yn rhestru cyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd gennym ni ac asiantaethau asesu technoleg iechyd (HTA) eraill ledled y DU ac Ewrop rhwng diwedd mis Ebrill a diwedd mis Gorffennaf 2020.
Cliciwch yma i’w ddarllen a’l lawrlwytho.
Fe’i cynhyrchwyd mewn cydweithrediad â Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban (SHTG), yr asiantaeth HTA genedlaethol ar gyfer yr Alban, fel rhan o’n cynghrair strategol.
Mae’r bwletin ar gael bob chwarter. Hyd yma, SHTG yn unig oedd yn ei gynhyrchu ond nawr rhennir y cyfrifoldeb rhwng y ddau sefydliad.