Newyddion

18 Hydref, 2022

Cyhoeddi canllaw ar gau atodyn atrïaidd chwith y galon i drin oedolion sydd â ffibriliad atrïaidd

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw ar fath o lawdriniaeth ar y galon y gellir ei ddefnyddio i atal clotiau gwaed mewn oedolion sydd â Ffibriliad Atrïaidd.

Ffibriliad atrïaidd yw rhythm calon (arhythmia) afreolaidd ac yn aml, cyflym iawn, sy’n gallu arwain at glotiau gwaed yn y galon.  Gall y clotiau gwaed hyn ffurfio yn y rhan o’r galon sydd yn cael ei adnabod fel yr atodyn atrïaidd chwith,  a gall arwain at strôc.

Mae pobl sydd â Ffibriliad Atrïaidd fel arfer yn cael eu trin gyda meddyginiaeth gwrthgeulo, ond nid yw pawb yn gallu cymryd y feddyginiaeth hon.

Mae cau atodyn atrïaidd chwith y galon yn fath o lawdriniaeth ar y galon, y gellir ei defnyddio fel dull amgen o atal clotiau gwaed mewn oedolion sydd â Ffibriliad Atrïaidd ac sydd ddim yn gallu cymryd meddyginiaeth gwrthgeulo.

Mae’n cynnwys mewnosod dyfais cau atodyn atrïaidd chwith y galon i ran atriwm chwith y galon, a blocio’r rhan lle mae’r clotiau gwaed yn fwyaf tebygol o ffurfio.

Yn ôl canllaw a gyhoeddwyd gan HTW, nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi cau atodyn atrïaidd chwith y galon i drin oedolion sydd â ffibriliad atrïaidd nad yw’n ymwneud â’r falfiau, sydd ddim yn gallu cymryd gwrthgeulyddion drwy’r geg.

I ddarllen y canllaw, cliciwch yn llawn yma.