Newyddion

17 Mawrth, 2020

Datganiad: Coronafeirws (COVID-19)

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn ymwybodol o’r sefyllfa o ran y clefyd coronafeirws newydd (COVID-19).

Rydym yn parhau i ddilyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd ein gwaith o gefnogi dull cenedlaethol o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaeth yng Nghymru yn parhau, ond efallai y byddwn yn cymryd dipyn mwy o amser na’r arfer i ymateb i ymholiadau.

Mae hyn oherwydd ein bod ni’n cymryd camau i gyfyngu ar yr holl deithio a chyswllt sydd ddim yn hanfodol, yn unol â chanllawiau gan swyddogion iechyd y cyhoedd.

Byddwn yn dal i ymateb i bob ymholiad cyn gynted â phosib, ac mae ein tîm yn edrych ar yr opsiynau i gynnal ein cyfarfodydd wedi’u trefnu drwy lwyfannau rhithwir. Os oes gennych gyfarfod wedi’i drefnu gyda HTW, bydd aelod o’n tîm mewn cysylltiad i ail-drefnu.

Rhagor o wybodaeth am y clefyd coronafeirws (COVID-19):