Newyddion

14 Chwefror, 2022

< BACK

Digwyddiad i’w archwilio datrysiadau digidol argyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru

Rydym yn ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru, i gynnal digwyddiad a fydd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer datrysiadau digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd Datrysiadau Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn dod â datblygwyr digidol a darparwyr gwasanaethau at ei gilydd, i rannu mewnwelediadau ar ddyfodol datrysiadau digidol i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Yn ystod y digwyddiad rhithwir dau ddiwrnod sydd yn cael ei gynnal ar 23-24 Mawrth 2022, bydd siaradwyr o bob rhan o’r sector digidol yn ymuno â ni, a fydd yn trafod pynciau fel Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru, Ap GIG Cymru, a phroses NICE ar gyfer gwerthuso technolegau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am HealthTech Connect a’r Gwasanaeth Arloesi AAC (Accelerated Access Collaborative) newydd.

Bydd sesiynau holi ac ateb a sesiwn ryngweithiol ar gymhwyso fframwaith safonau tystiolaeth NICE ar gyfer technolegau iechyd digidol. Bydd HTW yn rhannu gwybodaeth am ei Alwad Pwnc Agored Digidol sydd ar ddod, a bydd arloeswyr yn cyflwyno eu technoleg ddigidol i banel arbenigol, a fydd yn darparu mewnwelediadau ar y datrysiadau y byddai eu sefydliadau’n chwilio amdanynt.

Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i rannu’n ystafelloedd digidol rhyngweithiol hefyd, i rannu eu syniadau ar sut y gall technoleg ddigidol drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad am ddim, a gellir eu harchebu yma.