Digwyddiad

14 Ionawr, 2020

Diwydiannau yn ymgysylltu â Thechnoleg Iechyd Cymru ar ddechrau 2020

 

Our Chair Professor Peter Groves delivers a presentation.

Fe ddechreuom 2020 drwy annog diwydiannau i gydweithio â ni yn ein gwaith i gynyddu mynediad at dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau yng Nghymru.

Cafodd dros 60 o gynrychiolwyr diwydiannau eu croesawu i ddigwyddiad a gynhaliwyd gennym mewn cydweithrediad â MediWales, a oedd yn edrych ar sut y gallwn wella ein prosesau asesu.

“Yn ein hymdrechion i greu llif gwybodaeth ddwy ffordd gyda chynrychiolwyr diwydiant, mae Technoleg Iechyd Cymru yn cymryd camau i wrando a dysgu sut y gallwn gydweithio orau,” meddai Dr Thomas Winfield, Uwch Economegydd Iechyd.

“Rydym yn hapus iawn gyda’r digwyddiad heddiw, sydd wedi bod yn gyfle i drafod ein prosesau drwy gyflwyniadau dan arweiniad arbenigwyr ac astudiaethau achos. Bydd y digwyddiad hwn yn ein helpu i barhau i gael ein diweddaru am dueddiadau diwydiant, ac yn galluogi diwydiant i gyflwyno pynciau i’w harfarnu.”

Cododd agenda lawn yn y Ganolfan Gwyddorau Bywyd ymwybyddiaeth o’n rôl i gefnogi dull cenedlaethol o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau.

Cafwyd anerchiadau gan yr Athro Peter Groves, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Comisiwn Bevan, Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol, a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Dechreuodd sesiwn y bore gyda chyflwyniad ynghylch ein Grŵp Defnyddwyr Diwydiannau. Mae gan y grŵp gynrychiolwyr o Fusnesau Bach a Chanolig i gwmnïau rhyngwladol mawr, sy’n cynnig amrywiaeth o safbwyntiau i’n prosesau.

Ein ffurflen pwnc newydd yw cam cyntaf ein proses i gynhyrchu canllawiau ar sail tystiolaeth ar gyfer comisiynwyr gofal yng Nghymru. Dangoswyd hyn gennym drwy astudiaethau achos ac yna, fe wnaeth ein huwch ymchwilwyr ddarparu’r 10 awgrym gorau ar gyfer cyflwyno pwnc ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd.

Dechreuodd sesiwn y prynhawn gyda ffocws ar HealthTech Connect, y system ar-lein a sefydlwyd gan NICE i adnabod technolegau iechyd wrth iddynt symud o’r cam sefydlu i’r cam mabwysiadu yn y DU.  Mae hyn wedi bod yn rhan allweddol o’n proses o sganio’r gorwel, ac wedi arwain at gyhoeddi nifer o adroddiadau.

Daeth Dr Susan Myles, ein Cyfarwyddwr, â’r digwyddiad i ben drwy ganolbwyntio ar ein gwaith i archwilio’r broses o fabwysiadu ein Canllawiau. Rydym wedi cyhoeddi 12 Canllaw hyd yn hyn, ac rydym yn gweithio gyda Chyfarwyddwyr Meddygol yng Nghymru i fonitro’r niferoedd sy’n manteisio ar wasanaethau gofal.

Cliciwch yma i lwytho’r setiau sleidiau i lawr.

Gallwch barhau i gael eich diweddaru ynghylch ein gwaith yn y dyfodol drwy glicio yma i danysgrifio i’n rhestr bostio.