Newyddion

02 Rhagfyr, 2021

DYFAIS SY’N NEWID BYWYD I BOBL Â DIABETES YN CAEL GOLAU GWYRDD GAN ARBENIGWYR TECHNOLEG IECHYD CYMRU

A graphic that shows a light bulb, a map of Wales and various health technologies.Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi argymell bod dyfais sy’n newid bywydau pobl â diabetes yn cael ei defnyddio fel mater o drefn yn GIG Cymru.

Synhwyrydd ydy dyfais monitro glwcos FreeStyle Libre sydd yn cael ei wisgo o dan y croen i fonitro lefelau’r siwgr yn y gwaed, gan alluogi cleifion diabetes i reoli eu clefydau’n fwy effeithiol, heb orfod gwneud profion pricio’r bys drwy’r dydd.

Mae cleifion sydd wedi cael eu ffitio â’r synhwyrydd yn gallu gweld eu lefelau siwgr gwaed drwy basio sganiwr, sydd yn cael ei ddarparu mewn ap mewn ffôn symudol neu ddyfais debyg, dros y synhwyrydd.

Edrychodd HTW ar ddata o fwy na dwsin o dreialon rheoli ar hap ac astudiaethau arsylwi, i asesu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd y ddyfais monitro glwcos fflach o’i gymharu â hunan-fesur lefel y glwcos yn y gwaed (pricio bys).  Daeth i’r casgliad, er ei bod yn fwy drud, bod y ddyfais monitro glwcos fflach yn fwy effeithiol, ac y dylai fod ar gael i bawb sydd â diabetes sydd angen inswlin ar gyfer triniaeth. Ar hyn o bryd, y system Libre FreeStyle yw’r unig un sy’n darparu’r math hwn o fonitro.

Yn ôl Diabetes UK, Cymru sydd â’r nifer fwyaf o bobl sydd â diabetes yn y DU. Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr erbyn hyn (8% o’r boblogaeth 17 oed a throsodd), ac mae’r niferoedd yn codi bob blwyddyn. Ar hyn o bryd, mae 10% o gyllideb GIG Cymru yn cael ei wario ar drin diabetes a’i gymhlethdodau.

Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd HTW:

‘Mae gan Technoleg Iechyd Cymru rôl bwysig o ran dod o hyd i dechnolegau meddygol a fydd yn gwella iechyd a bywydau pobl yng Nghymru ac ar yr un pryd, yn cynrychioli gwerth da am arian i GIG Cymru. Mae arfarniad HTW o Freestyle Libre wedi dod i’r casgliad bod gan y dechnoleg hon y potensial i wneud hynny, ac rydym yn gobeithio y bydd ein canllawiau’n sicrhau y bydd cleifion sydd â diabetes ac sydd angen inswlin yn cael y cyfle i elwa ar fynediad haws i’r dechnoleg hon yn y dyfodol.’

Mae’r newyddion wedi cael ei groesawu gan Reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Diabetes UK Cymru, Joshua James, a ddywedodd:

“Mae’r ddyfais monitro glwcos fflach yn arf pwysig a allai helpu pobl i wella ansawdd eu bywyd, lleihau ymweliadau i ysbytai, a rhoi mwy o hyder i gleifion reoli eu cyflwr. Mae canlyniad yr adolygiad yn gam ymlaen o ran helpu pobl ar draws Cymru i gael mynediad at y dechnoleg gywir i’w helpu i fyw bywydau gwell a hapusach gyda phob teip o ddiabetes.”

Disgrifiodd yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru, yr ymgynghorydd Julia Platts, rai o fanteision y ddyfais i gleifion yng Nghymru.

“Bydd yn helpu i gynyddu’r amser sy’n cael ei dreulio yn yr ystod darged glwcos, a fydd yn helpu i leihau rhywfaint o’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â diabetes. Bydd yn helpu i leihau hypoglycemia hefyd, sydd ddim yn neis iawn ac a allai fod yn frawychus iawn, ac yn helpu i gynyddu tawelwch meddwl.”

Mae cleifion diabetes wedi croesawu’r argymhelliad y dylai’r GIG yng Nghymru ddefnyddio’r ddyfais monitro glwcos FreeStyle Libre fel mater o drefn hefyd.

Mae Sarah Gibbs o Gasnewydd yn chwistrellu inswlin sawl gwaith y dydd i gadw ei lefelau glwcos gwaed dan reolaeth. Mae hi’n un o’r nifer fach o gleifion yng Nghymru sydd wedi gallu cael mynediad i FreeStyle Libre ar y GIG, ac yn disgrifio sut mae wedi newid ei bywyd.

“Mae’n gymaint cyflymach, gallaf hyd yn oed sganio fy mraich pan fyddaf yn cerdded!  Gallaf edrych ar fy lefelau dros 24 awr, ac mae’n llawer haws eu deall. Mae fy lefelau glwcos dan reolaeth gymaint mwy nawr. Hebddo, fe fuaswn i ar goll.”

Yn ôl arolygon a gynhaliwyd gan Diabetes UK Cymru, mae llai na hanner y bobl sydd â’r cyflwr yng Nghymru wedi defnyddio FreeStyle Libre, a ddaeth ar y farchnad yn 2014. Cymru sydd â’r nifer isaf o bobl sy’n defnyddio’r ddyfais o unrhyw genedl yn y DU.  Dylai hyn newid yn dilyn canllawiau HTW, sydd bellach yn rhoi argymhelliad cryfach ar waith i’r ddyfais gael ei defnyddio yn y GIG nag mewn unrhyw ran arall o’r DU.