Gwerthuso ein heffaith
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi ymrwymo i fonitro a gwerthuso ein gwaith. Er mwyn gwneud hyn rydym wedi datblygu Cynllun Gwerthuso a phrosesau i gasglu data, monitro ein canlyniadau a dangos pa wahaniaeth mae ein gwaith yn ei wneud.
Dyma rai o brif gyflawniadau HTW hyd yma:
Astudiaethau achos diweddaraf
Astudiaeth Achos
Maw 2023
Rydym yn falch o gyhoeddi ein fideo astudio achos diweddaraf, sy'n disgrifio ein harfarniad o’r ddyfais monitro glwcos FreeStyle Libre, a sut y gallai hyn newid bywydau pobl sy'n byw â diabetes yng Nghymru.
Astudiaeth Achos
Medi 2020
Fel rhan o gynllun peilot Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol Technoleg Iechyd Cymru, cynhaliwyd ymgynghoriad gennym gyda chwmni a ofynnodd am asesiad, sef Rescape Innovation.
Astudiaeth Achos
Medi 2020
Rydym wedi treialu Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW gyda charfan o Esiamplau Technoleg Iechyd Bevan, sef grŵp o syniadau arloesol wedi’u dewis gan Gomisiwn Bevan i'w hymarfer.
Adborth
"Roedd y cydweithwyr yn HTW y bûm i’n gweithio gyda nhw yn hynod broffesiynol, roedd ganddynt swm rhyfeddol o arbenigedd ac roedd hi’n hawdd gweithio gyda nhw. Gwnaethant ymateb yn gyflym iawn i geisiadau, gan geisio bodloni terfynau amser ac roeddent yn ddibynadwy."
Sabine Ettinger, Ymchwilydd a Rheolwr Prosiect Gwyddonol, EUnetHTA
"Mae Cyngor Gwyddonol NICE wedi gweithio gyda HTW i ddarparu’r asesiadau Offeryn META a chyngor cyflym ynglyn â thechnolegau iechyd digidol sy’n cael eu datblygu ar gyfer dynodiadau COVID. Mae ein rhyngweithio wedi bod yn effeithiol ac addysgiadol i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi’r berthynas hon sy’n datblygu ac edrychwn ymlaen ar gydweithio gyda HTW yn y dyfodol.”
Cyngor Gwyddonol NICE ,
"Rhoddodd adroddiad HTW fanylion y sail tystiolaeth ynglyn ag anwedd hydrogen perocsid gweddilliol... Llywiodd hyn drafodaethau’r grwp pedair gwlad a oedd yn edrych ar atebion posibl er mwyn gallu ailbrosesu cyfarpar diogelu personol (PPE). Gwerthfawrogwyd yn fawr agwedd hyblyg ac ymatebol HTW wrth gynnal yr ymchwil hwn."
Pete Philips, Cyfarwyddwr, Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol
"Tynnwyd ein sylw at eich adolygiad tystiolaeth rhagorol yn ymwneud ag effeithiolrwydd PCR [Adwaith Cadwynol Polymeras] COVID-19 a phrofion gwrthgyrff. Rydym yn gwerthfawrogi gallu cyfeirio at hwn a defnyddio ei gasgliadau.”
Debbie Sigerson, Rheolwr Rhaglen, Public Health Scotland
‘‘Rwy’n croesawu’r cynnydd a wnaed gan Technoleg Iechyd Cymru yn ystod ei flwyddyn gyntaf. Mae’n darparu cyngor o’r radd flaenaf wedi’i lywio gan dystiolaeth ar gyfer ein byrddau iechyd ar ystod o dechnolegau nad ydynt yn feddyginiaethau. Mae hwn yn waith pwysig a fydd yn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar flaen y gad o ran technoleg fodern.’’
Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
“Mae’r bobl iawn yn edrych ar yr arfarniadau tystiolaeth cywir. Roeddent yn ymatebol iawn ac yn adlewyrchu nifer o’n sylwadau yn yr arfarniad terfynol.”
Cyfwelai sy’n rhanddeiliad,
"Diolch yn fawr am y mewnbwn defnyddiol iawn hwn eleni... yn sicr mae wedi gwella cadernid y penderfyniadau a hefyd wedi dangos i ni lle mae’r bylchau mewn tystiolaeth."
Helen Howson, Cyfarwyddwr, Comisiwn Bevan
“Yn fy marn onest i, mae gwasanaethau iechyd angen arfarniadau technoleg iechyd o ansawdd uchel o’r fath yn fwy nag erioed er mwyn datblygu a darparu gofal clinigol a chost effeithiol.”
Darparwr gwasanaeth,
Cyhoeddiadau
Dogfennau strategaeth cyfathrebu
View >