Er Cof – Adrian Mironas
Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth ein cyfaill a’n cydweithiwr Adrian Mironas, a fu farw ar ddydd Llun 24 Ionawr.
Ymunodd Adrian â HTW fel Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd ym mis Hydref 2019, ac roedd yn aelod gwerthfawr iawn o’n tîm. Bydd yn cael ei golli’n fawr, ar lefel bersonol a phroffesiynol.
Cyn ymuno â HTW, cwblhaodd radd BSc mewn Biocemeg a MPhil mewn Bioleg Folecwlaidd, ac astudiodd radd PhD mewn Diagnosis Clinigol a Rheoli Clefydau. Yna, bu’n gweithio yn y GIG, a daeth yn angerddol am arloesi mewn gofal iechyd.
Yn ystod ei gyfnod gyda HTW, creodd enw da iddo’i hun fel ymchwilydd cydwybodol iawn, oedd yn onest gydag egwyddorion moesol cryf. Mae’n cael ei gofio’n arbennig am ei waith ar ymchwilio i brofion diagnostig moleciwlaidd i ganfod Covid-19, sydd wedi bod yn ddylanwadol o ran casglu’r ymateb byd-eang i’r pandemig.
Roedd Adrian yn unigolyn gofalgar iawn, oedd bob amser yn cymryd yr amser i ofyn ar ôl ei gydweithwyr, yn ymddiddori yn eu gwaith ac yn eu cefnogi mewn cyfnodau anodd. Roedd yn adnabyddus am ei synnwyr diymwad o steil, ei bresenoldeb, ei bositifrwydd, ac am ei synnwyr digrifwch mawr, oedd yn dod ag ymdeimlad o hwyl i bob prosiect y bu’n gweithio arno. Roedd yn cyflwyno persbectif newydd i sgyrsiau gyda chydweithwyr bod amser – boed yn gysylltiedig â gwaith neu yn gysylltiedig â’i gariad at sinema a phopeth Eidaleg.
Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theulu Adrian ar yr adeg drist iawn hon, ac anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf atynt.