Diolch am ddewis awgrymu pwnc i Technoleg Iechyd Cymru.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich pwnc, ac efallai y byddwn yn eich gwahodd i drafod eich pwnc a/neu i roi sylwadau arbenigol ar adroddiadau arfarnu tystiolaeth HTW. Fodd bynnag, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i wneud hyn.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses arfarnu pwnc a beth sy’n digwydd os caiff eich pwnc ei symud ymlaen i gael ei arfarnu’n llawn yma.

Sylwch y bydd yr wybodaeth a gyflwynir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan ysgrifenyddiaeth Technoleg Iechyd Cymru, yn unol â pholisïau Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Gellir cyhoeddi’r wybodaeth hon ar wefan Technoleg Iechyd Cymru neu ei datgelu i drydydd partïon yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

 

*Mae’r ffurflen ar gael i’w llawrlwytho a’i hargraffu yma.

Awgrymu pwnc

  • Mandatory fields are marked with an asterisk *

  • Ynghylch y dechnoleg

  • Rhowch enw'r dechnoleg neu'r ymyriad, ac unrhyw wybodaeth ar ei ddatblygiad. Er enghraifft, ydy’r dechnoleg ar gael ar hyn o bryd neu ydy’r dechnoleg yn dal i gael ei datblygu? Ydy’r dechnoleg yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd yng Nghymru, neu yn bwriadu cael ei defnyddio? Os ydy'r dechnoleg yn ddyfais feddygol, nodwch ei statws rheoleiddio.
  • Os ydych yn gwybod, ceisiwch gynnwys amcangyfrif o nifer y bobl yr effeithir arnynt gan y cyflwr, a nodwch eu hardal ddaearyddol ac unrhyw gyfyngiadau o ran amser (e.e. yn y DU y flwyddyn). Ceisiwch gynnwys ffigurau sy’n benodol i Gymru, os ydych chi’n gwybod y rhain. Nodwch hefyd, a oes unrhyw grwpiau penodol o bobl a allai elwa fwyaf ar y dechnoleg.
  • Sut mae'r dechnoleg iechyd anfeddygol yn cyd-fynd â'r llwybr diagnostig, triniaeth neu ofal presennol

  • Y lleoliad yw'r lle y defnyddir y dechnoleg. Gallai enghreifftiau gynnwys meddygfeydd, yn y gymuned, neu mewn lleoliadau ysbytai fel clinigau neu theatrau llawfeddygol. Ceisiwch fod mor benodol â phosibl, a cheisiwch gynnwys pob lleoliad posibl os yn berthnasol.
  • Mae unrhyw wybodaeth yn ddefnyddiol, ond os ydych chi'n gwybod unrhyw rai o’r manylion canlynol, nodwch nhw isod. Y manteision a ragwelir i iechyd, lles a darpariaeth iechyd a gofal yng Nghymru, perthnasedd i flaenoriaethau iechyd a gofal cenedlaethol, yr adnoddau a'r gost sydd eu hangen i ddarparu'r dechnoleg neu'r ffordd o weithio (e.e. offer a staff), p’un a allai costau iechyd a gofal cymdeithasol eraill gael eu cynyddu neu eu lleihau.
  • Rhestrwch gyhoeddiadau neu adroddiadau allweddol am y dechnoleg iechyd hon, neu’r cyflwr sydd o ddiddordeb.
  • Sut y byddai defnyddio’r dechnoleg iechyd hon yn llwyddiannus yn cael ei fesur? Er enghraifft, a ddisgwylir i’r dechnoleg wella canlyniadau i gleifion (os felly, rhowch fanylion am ganlyniadau clinigol o ddiddordeb), neu a yw'n cynnig buddion eraill fel gostyngiad mewn costau, neu ostyngiad yn yr amser a gymerir i drin neu ddiagnosio cyflwr? Ceisiwch gynnwys gymaint o ganlyniadau tebygol â phosibl.
  • This field is for validation purposes and should be left unchanged.