Digwyddiad

10 Chwefror, 2021

Gweminar: Technolegau a phynciau

An illustrated graphic of parents, a child with a health technology, a light bulb and a map of Wales

Mae’n bleser gan Technoleg Iechyd Cymru (HTW) gyflwyno rhan dau o’i gyfres o weminarau i gynrychiolwyr cleifion, i ddysgu am asesu technoleg iechyd (HTA).

Yn rhan dau, mae grwpiau a sefydliadau cleifion yn cael eu gwahodd i archwilio’r syniad o dechnoleg iechyd, a sut y gall y rhain gael effaith ar fywydau cleifion.

Enw’r gweminar 90 munud ydy ‘Technolegau a phynciau’, a bydd yn cael ei chynnal am 11:00am ar ddydd Mercher 24 Mawrth 2021. Dim ond ychydig o lefydd sydd ar gael – cliciwch yma i gofrestru.

“Rydym yn falch iawn o roi cyfle i gynrychiolwyr cleifion ddysgu mwy amdanom,” meddai Alice Evans, Swyddog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd HTW. “Mae’n bwysig cynnwys profiad cleifion wrth wraidd ein gwaith, a bydd y gweminar yn mynd i’r afael ag ymholiadau ynghylch beth rydym yn ei olygu pan rydym yn siarad am dechnolegau iechyd, a pha dechnolegau sy’n bwysig i gleifion.

“Erbyn diwedd y gweminar, bydd cynrychiolwyr cleifion yn meddu ar yr hyder a’r wybodaeth ynghylch y ffordd orau o weithio gyda HTW. Byddwn yn archwilio’r syniad o ‘bynciau’, ac yn defnyddio enghreifftiau o fywyd go iawn i fynd drwy’r camau ymarferol y gall cynrychiolwyr cleifion eu cymryd i wneud gwahaniaeth i’w cymunedau.”

Bydd y gweminar yn cael ei rhedeg gan Karen Facey, Ymgynghorydd Polisi Iechyd seiliedig ar Dystiolaeth, a bydd ymchwilwyr HTW yn ymuno â chynrychiolwyr cleifion mewn gweithgareddau gweithdy rhyngweithiol.

Mae’n rhaid i’r rheiny sy’n cymryd rhan wylio ‘Gweminar 1: Cyflwyno HTW a Chynnwys y Cleifion.’ Bydd hwn yn cael ei e-bostio atoch i’w wylio cyn ‘Gweminar 2: Technolegau a phynciau’, a fydd yn cael ei gynnal ar 24 Mawrth 2021.

CADWCH Y DYDDIAD – Gweminar 3: Bydd ‘Suggesting topics to HTW’ yn cael ei gynnal am 11am ar ddydd Mercher 27 Ebrill 2021.