Newyddion

31 Hydref, 2019

Gwireddu ymchwil: Sut mae gan y diwydiant technoleg iechyd yng Nghymru ffordd newydd i farchnata yng Nghymru

HTW is holding a meeting for its Assessment Group.

 

Ydych chi’n gwybod am dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth neu am brosiect arloesol sy’n gallu gwella ansawdd y gofal yng Nghymru?

Gall unrhyw un awgrymu technoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth i Technoleg Iechyd Cymru, sef sefydliad sy’n cefnogi’r broses o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau mewn lleoliadau iechyd a gofal yng Nghymru.

Gelwir y technolegau iechyd hyn sydd yn cael eu cyflwyno yn ‘bynciau ‘ a gallant ddod o bob mathau o ffynhonellau, sy’n cynnwys; cleifion, aelodau’r cyhoedd, GIG Cymru neu o’r diwydiant ei hun.

 

Beth ydy technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau?

Mae cylch gwaith Technoleg Iechyd Cymru yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ddyfeisiau meddygol, gweithdrefnau llawfeddygol, adsefydlu, therapïau seicolegol a modelau gofal.

Gall y technolegau hyn amrywio, o eitemau cymharol syml fel gorchuddiadau clwyfau, i offer llawfeddygol robotig cymhleth. Gallant hyd yn oed gynnwys technolegau digidol fel apiau ffonau clyfar, sydd yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o bobl bob dydd.

Cliciwch yma i weld pynciau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno i Technoleg Iechyd Cymru.

 

Sut y gallaf gyflwyno pwnc?

Yn ddiweddar, ym mis Mawrth a mis Ebrill 2019, cynhaliodd Technoleg Iechyd Cymru Alwad Pwnc Agored. Ymgyrch codi ymwybyddiaeth oedd hon, i geisio denu pynciau i gael eu cyflwyno, ac i gynllunio’r rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Fodd bynnag, mae Technoleg Iechyd Cymru yn derbyn pynciau drwy gydol y flwyddyn! Os oes gennych dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, neu brosiect arloesol rydych chi’n credu y gallai Technoleg Iechyd Cymru edrych arno, ewch i www.healthtechnology.wales/suggest-a-topic gymryd y camau nesaf.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl i mi gyflwyno pwnc?

I ddechrau, bydd tîm Technoleg Iechyd Cymru yn chwilio am bapurau, i weld a oes digon o dystiolaeth i arfarnu’r dechnoleg a llunio Adroddiad Archwilio Pwnc. Mae hyn yn helpu i benderfynu a yw’r pwnc yn briodol i’w ychwanegu at y rhaglen waith i gael ei arfarnu’n llawn. 

Ar ôl ei ychwanegu at y rhaglen waith, bydd tîm Technoleg Iechyd Cymru a grwpiau amlddisgyblaethol yn cynnal asesiad o dechnolegau iechyd. Arfarniad llawn ydy hwn o’r dystiolaeth a’r arbenigedd gorau sydd ar gael.

Bydd Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth a Chanllaw pan fydd yr arfarniad wedi’i gwblhau. Mae hwn yn cael ei anfon at randdeiliaid allweddol sy’n gweithio o fewn GIG Cymru a’r sector gofal ehangach, i helpu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.

Disgwylir i GIG Cymru a’r gwasanaethau gofal ‘ Fabwysiadu’r ‘ Canllaw hwn, neu gyfiawnhau pam nad ydynt wedi gwneud hynny.

Cliciwch yma am ragor o fanylion ar broses arfarnu Technoleg Iechyd Cymru.