HTW a NIHR ( Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal) yn ffurfio partneriaeth genedlaethol i gefnogi cynhyrchu tystiolaeth ar gyfer technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaeth
Bydd HTW yn gweithio mewn partneriaeth â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) i helpu i sicrhau yr eir i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth a nodwyd yn ystod asesiadau technoleg iechyd. Mae’r bartneriaeth genedlaethol hon yn gam pwysig i ddarparu gwybodaeth i gefnogi cynhyrchu tystiolaeth ar gyfer technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaeth.
Mae HTW yn cynnal asesiadau technoleg iechyd o dechnolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaeth, ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol ar effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd y dechnoleg, gan gynnwys argymhellion i’w mabwysiadu yng Nghymru.
Mae ei dîm yn gwerthuso’r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli ar y dechnoleg, ac yn cynhyrchu Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR) sydd yn cael ei ddefnyddio i lunio argymhellion yng nghanllaw HTW.
Mae’r Adroddiadau Arfarnu Tystiolaeth a’r dogfennau canllaw yn tynnu sylw at unrhyw fylchau mewn tystiolaeth sy’n bodoli. Efallai y bydd argymhellion ymchwil yn amlinellu’r angen am astudiaethau sy’n cymharu’r dechnoleg â gofal safonol, neu’r rhai sy’n asesu canlyniadau hirdymor, a bydd y rhain yn awr yn cael eu rhannu â NIHR i ddarparu gwybodaeth a ellir ei defnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch comisiynu ymchwil yn y dyfodol. Mae angen tystiolaeth a gynhyrchir o astudiaethau o ansawdd uchel i sicrhau bod technolegau a ddarperir i gleifion yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae NIHR yn cael ei ariannu gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda buddsoddiadau gan bob un o’r Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i wella iechyd drwy ymchwil. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, prifysgolion, llywodraeth leol, cyllidwyr ymchwil eraill, cleifion a’r cyhoedd i ariannu a chyflwyno ymchwil iechyd a gofal.
Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:
“Mae’r bartneriaeth hon yn gyfle pwysig i dynnu sylw’n well at fylchau yn y dystiolaeth sy’n bodoli ar gyfer mabwysiadu a defnyddio technolegau iechyd a gofal nad ydynt yn feddyginiaeth.
“Bydd nodi a mynd i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth yn golygu y gall darparwyr iechyd a gofal fabwysiadu mwy o dechnolegau a allai newid bywydau.
“Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein partneriaeth â’r NIHR ymhellach, a dod o hyd i ffyrdd newydd o rannu gwybodaeth gyda’n gilydd.”