Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi ei Adroddiad Effaith cyntaf erioed!
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Adroddiad Effaith cyntaf Technoleg Iechyd Cymru (HTW).
Ar ôl dathlu ein pen-blwydd cyntaf yn ddiweddar ar 27 Tachwedd, mae HTW wedi drych yn ôl ar ein cyflawniadau yn 2018, wrth i ni weithio i wella ansawdd y gofal yng Nghymru.
Rydym wedi defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael, ac wedi cydweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i ymateb i anghenion defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gofal.
Mae ein hymgysylltiad gyda sefydliadau’r DU a rhai rhyngwladol, ein dull o wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth, ac ein Canllawiau awdurdodol wedi galluogi technolegau i gael eu datblygu a’u harloesi ar draws Cymru.
Sgroliwch i lawr i weld ein Hadroddiad Effaith 2018 a chrynodeb o’n cyflawniadau trwy ein gwaith sy’n ymwneud â chanfod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau. Mae’r technolegau hyn wedi cynnwys dyfais cywasgu mecanyddol y frest, croesgysylltu epitheliwm oddi ar y gornbilen, symbylu’r nerf sacrol a’r peiriant monitro glwcos fflach FreeStyle Libre.
Fel arall, gallwch glicio yma i lawrlwytho ein Hadroddiad Effaith 2018.
Ymunwch â’r sgwrs ar-lein trwy ddefnyddio #effaithHTW, a dilynwch @HealthTechWales ar Trydar i gael y newyddion diweddaraf.
Sefydlwyd HTW yn dilyn argymhelliad gweinidogol yn 2017 i gefnogi dull strategol, cenedlaethol o ran canfod, arfarnu a mabwysiadu technolegau newydd mewn lleoliadau iechyd a gofal. Dysgwch fwy ar ein tudalen Amdanom ni.