Mae HTW wedi cyhoeddi ei Adroddiad Effaith diweddaraf, sy’n crynhoi ei gyflawniadau fel sefydliad asesu technoleg iechyd cenedlaethol yn 2021.
Hoffem ddiolch i’r rhanddeiliaid sydd wedi cydweithio gyda ni drwy gydol 2021, ac sydd wedi ein galluogi i barhau i asesu technolegau a fydd yn cael effaith sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn 2021, fe wnaethom gyhoeddi 6 o ganllawiau cenedlaethol a 9 arfarniad o dystiolaeth. Cynigiwyd cyfanswm o 88 o bynciau i HTW a chynhyrchwyd 49 o adroddiadau archwilio.
Mae uchafbwyntiau allweddol 2021 yn cynnwys: Cael ein penodi’n Bartner Cydweithredol Canolfan Dystiolaeth Covid-19 Cymru; sefydlu partneriaeth waith newydd gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a chyhoeddi ein canllaw gofal cymdeithasol cyntaf; ac ennill Gwobr David Hailey am y Stori Effaith Orau yng Nghyngres Rhwydwaith Rhyngwladol yr Asiantaethau ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd 2021.
Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio ar y cyd gyda’n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol drwy gydol 2022.