Newyddion

27 Mai, 2022

< BACK

HTW Canllawiau – laryngosgopi fideo (VL)

Nid yw defnyddio laryngosgopi fideo (VL) yn rheolaidd ar gyfer pobl sydd angen cael tiwb anadlu cyn iddynt gyrraedd yr ysbyty yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth, yn ôl canllaw sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Technoleg Iechyd Cymru. 

Camerâu ydy laryngosgopau fideo sydd yn gallu cael eu defnyddio gan barafeddygon ac ymatebwyr cyntaf i weld y tu mewn i wddf neu laryncs person tra’u bod yn ffitio tiwb anadlu cyn mynd â nhw i’r ysbyty.

Canfu HTW nad yw VL yn gwella cyfraddau llwyddiant cyffredinol, ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu gwell canlyniadau clinigol o’i gymharu â laryngosgopi uniongyrchol – sef offeryn sydd yn cael ei ddefnyddio i daflu goleuni ar y laryncs.

Mae dadansoddiad economaidd gan HTW yn amcangyfrif na fyddai defnyddio VL yn rheolaidd cyn cyrraedd yr ysbyty yn gost-effeithiol.

Nid yw argymhelliad HTW yn atal arbenigwyr rhag parhau i ddefnyddio VL ar gyfer cleifion sydd â llwybrau anadlu anodd eu cyrraedd cyn cyrraedd yr ysbyty, os oes dyfeisiau eisoes ar gael.

I ddarllen y canllaw,  cliciwch yma: https://healthtechnology.wales/reports-guidance/laryngosgopau-fideo-2/?lang=cy