HTW wedi cyhoeddi canllaw sy’n argymell mabwysiadu radiotherapi abladol stereotactig (SABR)
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw sy’n argymell mabwysiadu radiotherapi abladol stereotactig (SABR) fel mater o drefn, i drin pobl â chanser yr arennau sylfaenol sydd ddim yn addas i gael llawdriniaeth neu dechnegau abladol eraill.
Mae SABR yn anfon pelydrau ymbelydredd bach a main dan arweiniad systemau delweddu, sy’n tracio union leoliad tri dimensiwn tiwmor.
Mae hyn yn caniatáu i ddosau uchel o ymbelydredd gael eu hanfon at y tiwmor ac ar yr un pryd, yn lleihau’r niwed i’r meinwe iach o’i amgylch.
Mae’n gallu cael ei roi mewn lleoliad cleifion allanol heb anaesthetig cyffredinol, a gellir ei roi gyda llai o driniaethau na radiotherapi safonol. Mae hyn yn golygu nad oes angen i’r claf aros yn yr ysbyty fel arfer. I ddarllen canllaw llawn HTW, cliciwch yma.