HTW yn adnewyddu Memorandwn Cyd-dealltwriaeth gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Mae HTW wedi adnewyddu Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Mae’r ddau sefydliad wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth ers 2019 i gefnogi arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau ar gyfer systemau iechyd a gofal yng Nghymru.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn gorff cenedlaethol a sefydlwyd yn 2017 i weithio gyda phartneriaid ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg i adnabod, arfarnu, a mabwysiadu technolegau iechyd newydd.
Rydym yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ein lletya o fewn GIG Cymru, ond rydym yn annibynnol ar y ddau. Mae ein cylch gwaith yn cwmpasu unrhyw dechnoleg iechyd sydd ddim yn feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol, telefonitro neu adsefydlu.
Mae WHSSC (Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru) yn defnyddio canllawiau wedi’u cyhoeddi ac yn Asesu Technolegau Iechyd Cymru i lywio ei benderfyniadau a chomisiynu technolegau anfeddygol arbenigol ar gyfer cleifion yng Nghymru
Fel Cyd-bwyllgor o’r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, mae gan WHSSC gyfrifoldeb i gomisiynu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol ar eu rhan. Mae’n sicrhau mynediad at wasanaethau arbenigol diogel, effeithiol a chynaliadwy ar gyfer pobl Cymru. Mae’r sefydliad yn lleihau dyblygu ac yn darparu cysondeb yn y gwasanaethau sydd ar gael ar draws Cymru hefyd.
Nod y bartneriaeth yw sicrhau’r canlyniadau canlynol:
- Mynediad gwell i’r priod ganolfannau rhagoriaeth, arbenigwyr a rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol.
- Cyfnewid dysgu a gwybodaeth i lywio datblygiadau mewn systemau gofal a lleihau dyblygu.
- Effeithlonrwydd Asesu Technolegau Iechyd sydd ddim yn feddyginiaeth ac mewn eu comisiynu.
- Cydweithio ar weithgareddau sganio’r gorwel.
- Darparu datblygiad personol a phroffesiynol i staff.
Meddai Andrew Champion, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio mewn partneriaeth â Thechnoleg Iechyd Cymru. Mae gennym yr un nod, sef sicrhau bod gan bobl Cymru fynediad at y technolegau arbenigol mwyaf clinigol a chost-effeithiol sydd ar gael, sydd ddim yn feddyginiaethau.
Mae’r bartneriaeth hon yn rhoi cyfle gwych i rannu gwybodaeth, sicrhau bod technolegau newydd yn cael eu cyfeirio’n gyflym i’w harfarnu, a galluogi mwy o fynediad i arbenigwyr a allai helpu i gefnogi ein penderfyniadau comisiynu.”
Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru:
“Mae gweithio ar y cyd â phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn allweddol i sicrhau bod ein gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.
“Mae ein partneriaeth â WHSSC yn bwysig dros ben o ran sicrhau bod ein gwaith arfarnu a’r canllawiau cenedlaethol rydym yn eu cyhoeddi yn cefnogi penderfyniadau ar gomisiynu gwasanaethau arbenigol yng Nghymru.”