Newyddion

19 Rhagfyr, 2019

Mae Adroddiad Blynyddol cyntaf Technoleg Iechyd Cymru wedi’i gyhoeddi!

Heddiw mae’n bleser gennym eich hysbysu am gyhoeddiad Adroddiad Blynyddol 2018-2019. Hwn yw ein hadroddiad blynyddol cyntaf ac mae’n amlygu’r hyn y mae Technoleg Iechyd Cymru wedi’i gyflawni ers ein lansio ym mis Tachwedd 2017.

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.

Sefydlwyd Technoleg Iechyd Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda diben clir, i gefnogi nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau nad ydynt yn feddyginiaethau a fydd yn gwella bywydau pobl yng Nghymru. Yn Adroddiad Blynyddol 2018-2019 rydym yn dangos sut yr ydym yn cyflawni’r nodau allweddol hyn: o nodi pynciau gyda’n Galwadau Agored am Bynciau, i’n Canllawiau sydd wedi’u llywio gan dystiolaeth, i sut yr ydym yn ymgysylltu â’n nifer o randdeiliaid.

Rydym wedi cynnwys astudiaethau achos ym mhob adran o’r adroddiad. Enghreifftiau go iawn o’n gweithgareddau yw’r rhain sydd wedi’u mapio yn erbyn ein fframwaith rhesymeg arfarnu i ddangos pa wahaniaeth y mae ein gwaith yn ei wneud. Mae’r adroddiad hefyd yn crynhoi sut yr ydym wedi cyflawni argymhellion Llywodraeth Cymru o ymchwiliad Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru 2014, adroddiad a arweiniodd at ein sefydlu.

Ynghyd â’n grwpiau amlddisgyblaeth, rydym yn hyderus bod Technoleg Iechyd Cymru yn dwyn ynghyd yr arbenigedd cywir i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.” – Yr Athro Peter Groves (Cadeirydd HTW) a Dr Susan Myles (Cyfarwyddwr HTW)

Rydym am ddiolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni a’n helpu i dyfu’n sefydliad arloesol. Mae’r cyfleoedd sydd i ddod yn gyfforus iawn!

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2018-2019 HTW yn llawn.

Mae lansiad Adroddiad Blynyddol eleni yn cyd-dddigwydd â Digwyddiad Ail Ben-blwydd HTW, sy’n dathlu dwy flynedd Technoleg Iechyd Cymru. Ymunwch â ni ar Twitter er mwyn dilyn y diwrnod wrth iddo fynd rhagddo: @HealthTechWales